Ffïoedd angori: Pryderon am ddyfodol harbwr Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae perygl y gallai cynyddu ffïoedd angori cychod yng Ngheredigion arwain at wagio harbwr Aberaeron, yn ôl clwb hwylio'r dref.
Daeth y rhybudd wrth i gabinet Cyngor Ceredigion bleidleisio ddydd Mawrth dros godiad o 25%.
Roedd dau opsiwn gerbron y cynghorwyr, sef cynnydd o 25% neu 50%.
Mae'r Cynghorydd Elizabeth Evans, sy'n cynrychioli Aberaeron ar y cyngor sir, yn bwriadu galw'r penderfyniad yn ôl, ond bydd angen cefnogaeth pum cynghorydd ychwanegol er mwyn cyfeirio'r mater i bwyllgor craffu.
Hinsawdd ariannol heriol
Mae perchnogion cychod yn talu i gadw cychod yn yr harbwr yn yr haf, ac ar ddalwyr caled ger yr harbwr dros y gaeaf.
Mae prisiau'n dibynnu ar faint y cwch, ac ar hyn o bryd mae ffioedd Aberaeron yn £34.50 y metr drwy'r haf, ac £19 y metr trwy'r gaeaf.
Byddai perchennog cwch 10m felly yn talu £535 y flwyddyn.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn gorfod edrych ar gynyddu ffioedd yn Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd oherwydd yr hinsawdd ariannol heriol.
Mae cynghorwyr Ceredigion wedi dweud bod diffyg o £250,000 yng nghyllideb yr adran sy'n gyfrifol am dri harbwr Ceredigion, a cheisio cau'r bwlch hwnnw fyddai'r nod o gynyddu'r ffïoedd.
Ond mae pobl yn Aberaeron yn poeni'n fawr am effaith posib y cynnydd.
'Drwg iawn i'r dref'
Julian Driver yw ysgrifennydd Clwb Hwylio Aberaeron, ac mae'n ofni, os yw'r ffïoedd yn codi 25% eleni, y gallen nhw godi eto ar lefel debyg flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae'n dweud nad yw'r diffyg o ganlyniad i orwariant yn Aberaeron, gan honni na fu unrhyw fuddsoddiad sylweddol yn yr harbwr ers y 60au.
Ychwanegodd nad yw perchnogion y llongau yno'n filiwnyddion: "Nid yw'r harbwr yn addas i longau mawr moethus a phalasau gin - mae'n cynnwys afon sy'n gorlifo, a dim ond ychydig oriau y tu allan i'r llanw allwch chi fynd allan, a hynny am ychydig o oriau.
"Felly bydde colli'r cychod sydd yma yn ddrwg iawn i'r dref."
Mae'r Cynghorydd Elizabeth Evans yn cefnogi aelodau'r clwb hwylio, ond mae'n deall yr heriau sy'n wynebu'r cabinet hefyd.
"Rydw i'n cydymdeimlo bod angen gwneud toriadau ac mae angen dod ag incwm i mewn, ond mae'n rhaid i chi edrych ar effaith y penderfyniadau ar gymunedau.
"Mae perchenogion y llongau wedi arfer gyda chodiadau yn eu ffïoedd sydd uwchlaw cyfradd chwyddiant bob blwyddyn, ond mae hyn yn mynd tu hwnt i unrhyw synnwyr cyffredin.
'Perygl o golli cychod'
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cabinet yn gweithio gyda pherchnogion y cychod i ddod o hyd i ateb sy'n addas i bawb oherwydd ar hyn o bryd rydym mewn perygl gwirioneddol o golli cychod o'r harbwr hwn."
Mewn datganiad cyn y bleidlais ddydd Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Ar hyn o bryd, mewn cyfnod heriol iawn i'r awdurdod, argymhellion ydy rhain er mwyn gweithio tuag at leihau'r diffyg sylweddol rhwng y costau o ddarparu'r gwasanaeth a'r incwm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2018