Uwcharolygydd o'r gogledd yn ymddiswyddo wedi ffrwgwd

  • Cyhoeddwyd
Rob Kirman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Kirman wedi gwneud nifer o swyddi gyda'r heddlu dros y blynyddoedd

Mae uwcharolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi gadael ei swydd ac yn wynebu cael ei ddedfrydu yn y llys ar ôl ffrwgwd fis Awst diwethaf.

Mae Rob Kirman wedi gwneud nifer o swyddi gyda'r heddlu dros y blynyddoedd.

Fe wnaeth gyfaddef sawl trosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus, difrod troseddol ac ymosod a bydd yn cael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Richard Debicki mewn datganiad: "Gallaf gadarnhau y bydd cyn-uwcharolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, Rob Kirman, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 19 Chwefror i gael ei ddedfrydu, ar ôl pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus, difrod troseddol ac o ymosod."

Fe gadarnhaodd Mr Debicki fod y cyhuddiadau'n ymwneud â digwyddiad yn Wrecsam, pan nad oedd Mr Kirman ar ddyletswydd, ar 12 Awst y llynedd.

Mae wedi dod i'r amlwg fod Mr Kirman wedi ymddiswyddo ar Ionawr 15, tra'i fod wedi ei atal o'i waith.

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Debicki: "Yn ogystal â'r ymchwiliad troseddol, cynhaliodd Heddlu Gogledd Cymru ymchwiliad camymddygiad mewnol hefyd, ac er bod y swyddog eisoes wedi ymddiswyddo o'r heddlu, bydd gwrandawiad camymddygiad cyhoeddus yn digwydd ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, ar 1 Mawrth."

Dywedodd hefyd bod gan y cyhoedd "yr hawl i ddisgwyl bod pob aelod o Heddlu Gogledd Cymru yn dangos y safonau uchaf o ymddygiad personol a phroffesiynol pan fyddant ar neu oddi ar ddyletswydd".

Dywedodd bod achosion o'r fath yn "ddifrodi'r ymddiriedaeth a'r hyder" sydd gan y cyhoedd yn yr heddlu.