Caerdydd i gynnal tîm criced 20 pelawd newydd

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg

Mae Caerdydd wedi ei dewis i fod yn gartref i un o'r timau mewn cystadleuaeth criced newydd.

Mae'r ECB wedi cyhoeddi'r dinasoedd fydd yn gartref i'r wyth tîm yn y gystadleuaeth 20 pelawd yn 2020.

Southampton, Birmingham, Leeds, Llundain, Manceinion a Nottingham yw'r lleoliadau eraill gafodd eu dewis.

Bydd meysydd Lord's a'r Oval yn Llundain yn gartref i dimau, yn ogystal â'r Aegas Bowl, Esgbaston, Headingley, Old Trafford, Trent Bridge a Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Beth fydd y fformat?

  • 36 o gemau dros gyfnod o 38 diwrnod;

  • Pedair gem gartref i bob tîm;

  • Bydd elfennau poblogaidd o gystadleuaeth yr Indian Premier League, fel gemau ail gyfle, a drafftio chwaraewyr.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, ei fod yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth yn "gatalydd i griced dyfu yng Nghymru".

"Rydyn ni'n credu y bydd y gystadleuaeth T20 newydd yn dilyn esiampl y Big Bash yn Awstralia a denu cynulleidfaoedd newydd," meddai.

"Gyda disgwyl i chwaraewyr gorau'r byd ddod i Gaerdydd, gall y gêm ond tyfu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stadiwm Swalec eisoes yn gartref i gemau T20 Morgannwg

Dywedodd yr ECB y byddai'r gystadleuaeth, fydd yn rhedeg am bum mlynedd i ddechrau, yn gwneud criced yn "berthnasol i gynulleidfa newydd".

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg ochr yn ochr gyda'r gystadleuaeth T20 Blast y mae'r siroedd yn chwarae ynddi yn barod.

Fe wnaeth yr ECB hefyd gyhoeddi lleoliadau gemau rhyngwladol Lloegr rhwng 2020-2024. Doedd cais Stadiwm Swalec i gynnal gemau yng Nghyfres y Lludw yn 2023 ddim yn llwyddiannus.

Ond fe fydd Caerdydd yn cynnal wyth gem ryngwladol undydd neu 20 pelawd yn erbyn Pacistan, De Affrica a Sri Lanka o fewn y cyfnod.