Un person wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod un person wedi eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Benfro.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4076 yn Hwlffordd, Sir Benfro yn hwyr brynhawn Iau.
Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad wrth i'r ymchwiliad barhau.
Yn gynharach dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn ymateb i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerbyd preifat, lori fechan, a beic modur.