E.T., Elliott a'r tapiau dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'n enwog am chwarae rhan bachgen bach sy'n magu perthynas agos gyda chreadur estron - ond wyddoch chi fod gan yr actor Henry Thomas berthynas agos â Chymru hefyd?
Daeth yr Americanwr i sylw'r byd yn naw oed ar ôl portreadu'r cymeriad chwilfrydig, Elliott, yn y ffilm eiconig E.T. the Extra-Terrestrial yn 1982.
Bellach yn 46 oed, mae'n debyg bod yr actor yn rhannu'r un chwilfrydedd am ei wreiddiau Cymreig.
"Mae fy nheulu i'n dod o wahanol lefydd yng Nghymru," meddai mewn cyfweliad ffôn (beth arall?) â Kate Crockett i BBC Radio Wales.
"Mae teulu Dad yn dod o'r gogledd ac ochr Mam yn dod o rywle yn ochrau Sir Gaerfyrddin."
Dywedodd ei fod wedi dysgu "ychydig" o Gymraeg ar hyd y blynyddoedd a bod hynny wedi dod yn haws ers dyfodiad y we.
"Cyn y we ro'n i'n anfon i ffwrdd am lyfrau a thapiau nôl yn nyddiau'r casét ac ro'n i'n chwarae nhw yn y car wrth deithio'n bell ar draws y wlad," meddai.
"Ro'n i'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg pan o'n i'n mynd i ymweld â Chymru, fel gofyn 'ble mae'r toiledau?' - roedd e'n ddefnyddiol iawn!"
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Bu Henry Thomas - sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres i Netflix - hefyd yn sôn am ei gariad at Glwb Pêl-droed Abertawe ac am waddol y ffilm ddaeth ag o i enwogrwydd yn y lle cyntaf.
"Mae gan bawb atgofion mor hoffus o E.T., a dyna'r gorau all rywun ofyn amdano o fod wedi gweithio ar ffilm mor fawr - mae'n braf."
Gwrandewch ar y cyfweliad yn llawn ar raglen Good Evening Wales ar BBC Radio Wales rhwng 16:00-18:30 dydd Gwener, 16 Chwefror.