Cau nifer o fwytai KFC oherwydd prinder cywion ieir

  • Cyhoeddwyd
kfc

Mae cadwyn o fwytai bwyd cyflym wedi gorfod cau nifer o'u canghennau oherwydd prinder cywion ieir.

Mae cwmni KFC wedi dweud mai'r rheswm am y problemau yw newidiadau yn eu system ddosbarthu genedlaethol.

Yr wythnos diwethaf, fe newidiodd KFC eu cytundeb dosbarthu i ddefnyddio cwmni DHL.

Mae gan KFC 900 o fwytai yn y DU, ac mae dros 80% ohonynt yn gweithredu dan drwydded.

10 yng ngogledd Cymru

Mae 10 o fwytai wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru, gan gynnwys rhai yng Nghaernarfon, Bangor, Caergybi a Llandudno.

Mae adroddiadau fod problemau mewn rhannau eraill o'r DU hefyd, gan gynnwys de ddwyrain Lloegr, canolbarth Lloegr, Llundain a'r gogledd ddwyrain.

Hyd nes yr wythnos diwethaf cwmni o Dde Affrica, Bidvest, oedd yn gyfrifol am ddosbarthu cywion ieir i'r bwytai.

Mae KFC wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am yr anghyfleustra.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mewn datganiad: "Rydym wedi ymuno â phartner cyflenwi newydd, ond maen nhw wedi cael rhywfaint o broblemau ar y cychwyn - mae cael cyw iâr ffres i 900 o fwytai ledled y wlad yn eithaf cymhleth!"

"Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ansawdd, felly gan nad oes cyflenwadau wedi bod, mae wedi golygu bod rhai o'n tai bwyta ar gau, tra bod bwytai eraill yn gweithredu bwydlen gyfyngedig neu oriau byrrach."

Dywedodd DHL: "Oherwydd problemau gweithredol, mae nifer o ddosbarthiadau yn ystod y dyddiau diwethaf wedi wynebu oedi, neu wedi bod yn anghyflawn.

"Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, KFC a QSL, i wella'r sefyllfa fel mater o flaenoriaeth, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra."