Y sêr sydd â chysylltiadau Cymreig
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n wynebau cyfarwydd ond wyddoch chi am eu cysylltiadau Cymreig? Mae ambell un yn annisgwyl iawn...
Pam Ferris
Os oeddech chi'n arfer mwynhau'r gyfres Darling Buds of May mae'n siŵr eich bod chi'n ymfalchïo yng Nghymreictod Catherine Zeta-Jones.
Ond efallai ddylech chi fod wedi edrych ar ei mam yn y gyfres, sef Ma Larkin, yr actores Pam Ferris.
Er iddi gael ei geni yn Hanover, Yr Almaen, roedd ei rhieni'n Gymry a'r unig reswm roedden nhw'n yr Almaen oedd oherwydd bod ei thad yn gwasanaethu yn yr awyrlu.
Symudon nhw nôl i Gymru a threuliodd ei phlentyndod yn Abercynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr, tan i'r teulu ymfudo i Seland Newydd pan oedd hi'n 13.
Paul Whitehouse
Mae Paul Whitehouse yn enwog am nifer dirifedi o gymeriadau doniol. Fe wnaeth ei enw yng nghyfresi sgetsus Harry Enfield ac yna cyfres The Fast Show.
Dechreuodd sylwi ar ei allu i greu acenion pan symuddodd ei deulu o Stanleytown yn y Rhondda i Enfield.
Roedd ei fam, a oedd ar un adeg yn gantores gyda Opera Cenedlaethol Cymru, yn digalonni ar ôl clywed ei mab yn siarad gyda thafodiaith Essex, ond pan roedden nhw'n mynd yn ôl i Gymru fe sylweddolodd y digrifwr ifanc fod ei acen Gymreig wreiddiol yn dal yno.
Sian Gibson
Fe ddaeth Sian i amlygrwydd trwy chwarae rhan Kayleigh yn y gyfres gomedi Car Share gyda Peter Kay.
Mae'r digrifwr yn y gorffennol wedi rhoi rhannau amlwg i'w ffrindiau o'i blentyndod yn ardal Bolton. Ond cafodd Sian ei magu a'i haddysgu yn yr Wyddgrug. Dechreuodd fagu blas at actio tra'n aelod o Theatr Ieuenctid Clwyd.
Roedd hi'n gweithio mewn canolfan alw yng Nghaer pan gafodd yr alwad ffôn newidiodd ei bywyd. Roedd Kay yn ei chofio pan roedden nhw'n perfformio gyda'i gilydd yn y coleg. Ers hynny mae hi wedi ymddangos yn The League of Gentlemen, Death in Paradise a chyd serennu gyda Johnny Vegas yn Murder on the Blackpool Express.
Ken Follett
Mae enw'r nofelydd yn ymddangos yn rheolaidd ymhlith yr awduron sy'n gwerthu fwyaf o lyfrau yn y DU. Mae nifer o'i lyfrau hefyd wedi eu haddasu yn ffimiau a chyfresi teledu gan gynnwys The Pillars of the Earth a World Without End.
Dechreuodd ei gariad at lyfrau pan oedd yn blentyn yng Nghaerdydd. Doedd ei rieni ddim yn gallu fforddio prynu llawer o gyfrolau felly roedd y llyfrgell ar Heol y Bontfaen yn Nhreganna yn lle arbennig iawn iddo.
Roedd yn ohebydd ar y South Wales Echo cyn troi ei law at ffuglen. Erbyn hyn mae wedi gwerthu 130 miliwn o lyfrau trwy'r byd.
Joanna Scanlan
Er mai ar Benrhyn Cilgwri y cafodd yr actores a'r scriptwraig Joanna Scanlan ei magu mae hi'n cydnabod mai yng ngogledd Cymru mae ei gwreiddiau.
Pan roedd hi'n ifanc fe brynodd ei rhieni westy enwog y Castle Hotel ar sgwâr Rhuthun. Disgrifiodd ei bywyd uwchben y gwesty "fel bod yn Fawlty Towers". Cafodd ei haddysg yn Ysgol Howell's Dinbych cyn mynd i Brifysgol Caergrawnt.
Falle dydy hi ddim yn syndod mai yn y byd comedi y mae hi'n fwyaf adanbyddus gyda rhannau yn y gomedi wleidyddol The Thick of It a Getting On. Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn chwarae'r brif ran yn No Offence, cyfres ddrama Channel 4 am dîm o dditectifs ym Manceinion.
John Prescott
Cafodd y gwleidydd Llafur ei eni ym Mhrestatyn. Roedd ei dad yn ddyn signal ar y rheilffyrdd a'i fam yn gynghorydd Llafur gyda chysylltiadau glofaol cryf.
Mae'n ymfalchïo yn fawr yn ei Gymreictod: "Cefais fy ngeni yng Nghymru, es i'r ysgol yng Nghymru ac mae'n fam yn Gymraes, rwy'n Gymro. Dyma gwlad fy ngeni."
Ac wrth gwrs, roedd yn fwy na bodlon ymddangos yn y gyfres gomedi Gymreig poblogaidd Gavin and Stacey, fel un o gyn-gariadon Nessa!
Dawn French
Mae'r gyfres Vicar of Dibley a'i chyfraniad i'r ddeuawd gomedi French & Saunders wedi hoelio lle Dawn French fel un o gewri comedi'r degawdau diwethaf.
Ond diolch i'r ffaith fod ei thad yn aelod o'r awyrlu yn y Fali, Sir Fôn, gallwn ei hawlio fel Cymraes hefyd, gan ei bod wedi'i geni yng Nghaergybi.
Yn anffodus, yr awyrlu sydd hefyd yn gyfrifol am ddiffyg cydnabyddiaeth o'i Chymreictod, gan eu bod nhw wedi rhannol dalu am ei haddysg mewn ysgol fonedd yn Sir Lincoln.
Peter Greenaway
Mae'r cyfarwyddwr ffilmiau Peter Greenaway yn adnabyddus am ei ffilmiau heriol, fel The Cook, the Thief, His Wife & Her Lover, Prospero's Books, The Draughtsman's Contract a Drowning by Numbers.
Cafodd ei eni yng Nghasnewydd, ond yn anffodus, dyna lle mae'r cysylltiad Cymreig yn gorffen gan i'w deulu symud i fyw i Chingford.
A bod yn onest, wnaeth y teulu ond symud i dde Cymru yn y lle cyntaf i ddianc rhag y blitz!
Christian Bale
Dydy Christian ddim yn arddel ei Gymreictod er ei fod e ymhlith nifer fechan o actorion sydd wedi ymddangos mewn ffilm Hollywood yn canu yn Gymraeg (neu o leiaf, ymddangos fel ei fod e'n canu'n Gymraeg).
Cafodd seren y ffilmiau Batman ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro gan fod ei dad â chysylltiad gyda'r awyrlu ym Mreudeth ger Hwlffordd. Daeth i sylw pawb yn chwarae rhan y bachgen ifanc yn ffilm Steven Spielberg Empire of the Sun ac, ar gychwyn y ffilm, mae'n cael ei weld yn meimio i fersiwn Gymraeg (o fath) o'r gân Suo Gân.
Er gwaethaf ei enedigaeth, mae wedi gwadu'r ffaith ei fod yn Gymro gan ddweud taw Sais yw e, a dim ond damwain oedd y ffaith ei fod wedi'i eni yng Nghymru. Lwcus nad ydy'r Bale enwog arall hwnnw, y pêl-droediwr Gareth, ddim yn teimlo 'run fath ag e!
Mary Quant
Mae'r cynllunydd dillad byd enwog Mary Quant yn eithaf unigryw, gan ei bod hi wedi ei geni yn Blackheath, Llundain, ond oherwydd bod ei rhieni'n Gymry, ac yn ymfalchïo yn y ffaith, mae Mary Quant yn cyfeirio at ei hun yn naturiol fel Cymraes.
Roedd ei rhieni'n hanu o deuluoedd glofaol a gwnaeth y ddau ennill ysgoloriaethau i fynychu Coleg Prifysgol Caerdydd, lle cafodd y ddau radd dosbarth cyntaf.
Symudon nhw i Lundain i ddysgu, ond roedden nhw wastad yn falch o'r cyfleoedd roedd eu cefndir Cymreig wedi ei gynnig a chodon nhw eu merch i barchu a dathlu'r cysylltiad Cymreig oedd ganddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2016
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd3 Mai 2015