'Mwy o bwerau ffermio' i Gymru wedi Brexit, meddai Gove

  • Cyhoeddwyd
defaid

Bydd gan Gymru "fwy o bwerau nag erioed" dros ffermio a'r amgylchedd ar ôl Brexit, yn ôl Ysgrifennydd Amaeth Llywodraeth y DU.

Dywedodd Michael Gove wrth gynhadledd undeb yr NFU yn Birmingham y byddai gan y llywodraethau datganoledig fwy o ddylanwad i siapio polisïau.

Mynnodd nad oedd gweinidogion yn San Steffan yn ceisio cadw pwerau wedi iddyn nhw ddychwelyd o Frwsel.

Fe wnaeth Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths hefyd ddweud wrth y gynhadledd fod angen sicrhau "na fydd Cymru'n colli'r un ddimai goch o arian" ar ôl gadael yr UE.

'Amgylchiadau unigryw'

Mae gweinidogion Bae Caerdydd wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio "cipio pŵer" dros rai meysydd datganoledig fel ffermio a'r amgylchedd.

Ond dywedodd Mr Gove ei fod eisiau gweld y "lefel uchaf o ddatganoli".

"Tu allan i'r UE bydd gan y sefydliadau datganoledig fwy o bwerau nag erioed o'r blaen i siapio polisïau amaethyddol i siwtio'u hardaloedd nhw," meddai.

"Fe fyddan nhw'n rhydd i ddyfeisio'u dulliau eu hunain o gymorth ar gyfer ffermwyr a chwsmeriaid eu gwlad nhw."

Mynnodd ei fod yn gweithio â chynrychiolwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar feysydd ble roedd "pryderon cyffredin" fel iechyd anifeiliaid a phlanhigion, a sicrhau gallu ffermwyr i werthu o fewn marchnad fewnol y DU.

Ond y tu hwnt i hynny, meddai, roedd "parchu amgylchiadau unigryw'r gwledydd datganoledig" yn bwysig.

"Mae daearyddiaeth Cymru a'r Alban yn wahanol, mae natur ffermio'n wahanol, mae nifer y ffermwyr sy'n gweithio mewn ardaloedd llai ffafriol yn wahanol, ac mae'r cymorth sydd ei angen yn wahanol," meddai.

"Dylai penderfyniadau penodol am sut mae'r arian yn cael ei wario a faint sy'n cael ei ddarparu ddod gan y sefydliadau datganoledig."

'Ariannu teg'

Yn ddiweddarach fe wnaeth Ms Griffiths ei haraith hithau i'r gynhadledd, gan amlinellu rhai o'i hegwyddorion hi ar gyfer polisi amaeth yn dilyn Brexit.

"Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae'r ddadl dros ddatganoli'n gryfach nag erioed," meddai.

"Mae natur y diwydiant yng Nghymru'n wahanol ac mae'n cymunedau gwledig yn wahanol. Nid oes un ateb all fodloni pawb.

"Rwy'n fwy na pharod cydweithio ar faterion perthnasol â Llywodraeth y DU a'm cyd-weinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Ond rhaid i ni fod yn bartneriaid cydradd. Mae hynny'n golygu trafodaeth deg, llywodraethu teg ac yn bwysicach na dim, ariannu teg."