Lefel diweithdra'n cynyddu eto yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Byd Gwaith

Mae lefel diweithdra wedi cynyddu yng Nghymru eto, a dim ond dau ranbarth o'r DU sydd â chyfradd gwaeth bellach.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfradd diweithdra Cymru wedi codi 0.9% i 5%, o'i gymharu â chyfartaledd o 4.4% ledled y DU.

Cymru welodd y cynnydd mwyaf o unrhyw ranbarth yn y DU yn y ffigyrau ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr 2017.

Dim ond Sir Efrog a Humberside sydd â chyfradd diweithdra uwch yn y DU.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 76,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru, sy'n 14,000 yn fwy na'r chwarter blaenorol, a 9,000 yn fwy na'r un cyfnod yn 2016.