Beth ydy'ch hoff air Cymraeg chi?

- Cyhoeddwyd
Mewn podlediad newydd sbon i BBC Radio Cymru mae Francesca Sciarrillo a Stephen Rule yn mynd dan groen rhai o'u hoff a'u cas eiriau yn Gymraeg ar "daith drwy'n iaith hardd ni".
Pwy yw'r cyflwynwyr?

Francesca Sciarrillo
Daw Francesca Sciarrillo o'r Wyddgrug ond fel mae ei henw'n awgrymu mae gwreiddiau ei theulu yn Yr Eidal.
Enillodd Francesca wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd yn 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn llysgennad di-flino dros yr iaith a llenyddiaeth. Mae'n gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, ac yn gyflwynydd ar Y Sîn i S4C a phodlediad Sut i Ddarllen.

Stephen Rule, sydd hefyd yn adnabyddus fel Doctor Cymraeg
Un o ardal Wrecsam yw Stephen ac mae'n athro Cymraeg. Wedi dysgu Cymraeg mae Stephen hefyd, ac mae wedi ennill gradd yn yr iaith.
Mae Stephen yn adnabyddus ar Instagram a TikTok fel Doctor Cymraeg. Mae ei angerdd dros y Gymraeg a'i gynnwys byr, bachog wedi denu miloedd o ddilynwyr i siaradwyr Cymraeg o bob gallu.
Bydd y saith pennod yn edrych ar eiriau sy'n dechrau efo'r llythrennau sy'n sillafu CYMRAEG.
Mae'r ddau wedi dewis geiriau "tafodieithol, diddorol, rhai sy'n hen iawn a rhai sy'n newydd i'r iaith, rhai sy'n [eu gwneud] yn hapus a rhai sy'n dân ar y croen" i'w trafod.
Dechrau gyda 'C'
CYNHEBRWNG
Yn yr ysgol y gair 'angladd' ddysgodd y ddau gyflwynydd am 'funeral' ar ôl astudio stori fer Angladd Yn Y Wlad, a'r gerdd Gail Fu Farw.
Ond ar ôl symud i Fangor ac i'r gogledd orllewin fe glywodd Francesca y gair 'cynhebrwng' yn cael ei ddefnyddio am y gwasanaeth ac fe gafodd ei drysu braidd.
Mae Stephen yn prysur egluro:
"Mae'n golygu fath â procession, dydi? Ond mae pobl y gogledd orllewin yn ei ddefnyddio fo – cnebrwn – am yr angladd i gyd dydyn? Er mai'r cynhebrwng ydi rhan o'r digwyddiad neu'r dathliad o fywyd rhywun, mae pobl yn ei ddefnyddio fo am y digwyddiad i gyd."
Podlediad Dim Ond Geiriau
Francesca Sciarrillo a Stephen Rule sy'n trafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg
Aeth Francesca yn ei blaen: "Mae'n enghraifft hyfryd dydi, ella i'r ddau ohonon ni fel pobl sydd wedi dysgu yn y gogledd, ein bod ni wedi dysgu gair penodol sydd yn fwy deheuol neu beth bynnag, ac wedyn ein bod ni jest wedi clywed gair [mwy gogleddol]... a mabwysiadu geiriau newydd."
Ychwanegodd Stephen:
"Mae'n air sy'n disgrifio rhywbeth trist iawn ym mywyd pobl, ond mae hyn yn rhywbeth mae'r ieithioedd Celtaidd i gyd yn gwneud i mi: 'dan ni'n gwneud tristwch swnio mor brydferth."

Trafod a chwerthin yn recordio podlediad Dim Ond Geiriau
CWTSH
Mae gan y ddau gyflwynydd asgwrn i'w grafu efo'r gair cwtsh.
"I fi, mae o yn yr un byd â 'Live, Laugh, Love'," meddai Francesca, yn cyfeirio at y gorddefnydd ohono ar glustogau a chwpanau a sut mae'n cael ei ddefnyddio fel arf marchnata, bron a bod.
"Mae termau'n gallu cael eu colli weithiau," eglurodd Stephen, "ac i fi, os ti'n gwybod o le maen nhw'n dod ti'n teimlo ei fod o'n perthyn i ti bach mwy."
Felly o le daw 'cwtsh'?
Mae Stephen yn mynd yn ôl at yr ystyr gwreiddiol...
"Mae'r gair cwtsh yn dod o'r gair cwt, fel cwt glo neu rhyw fath o hut. A dros amser mae pobl wedi ffendio fod cwtsh yn haws ei ddweud na cwt.
"Doedd Taid ddim yn siarad lot o Gymraeg efo fi, ond oedd o'n dweud pethau fel cwtsh dan staerie, hyd yn oed os oedd o'n siarad Saesneg. I fi mae cwt yn golygu fel cubby hole, neu rhywle i guddio."
Ychwanegodd Francesca, "ond y gair i ddisgrifio cofleidio sy'n gwneud dim byd i mi. Pan ti'n sôn am gwtsh fel lle i guddio neu i gadw pethau dw i wrth fy modd efo hwnna."
Hefyd, fel dau o'r gogledd maen nhw'n prysuro i egluro nad yw 'cwtsh' yn air fyddai'n cael ei ddefnyddio am goflaid beth bynnag. Mae Stephen yn sôn am y gair 'mwytha'.
Ac mae'r ddau'n gytûn bod y sillafiad yn gallu codi gwrychyn. Stephen sy'n mynd yn gyntaf:
"Y peth sy'n mynd ar fy nerfau i ydy'r ffordd mae pobl yn sillafu o efo 'ch' ar y diwedd, 's' dan ni angen ynde! Felly os ydan ni'n mynd i neidio ar y lori lwyddiant o farchnata'r gair yma, waeth i ni ei sillafu o'n iawn ynde?"
Yna, yn ôl y ddau, cewch ei ar gymaint o glustogau ag yr hoffwch.
Cafodd y gair 'cwtsh' ei ychwanegu i'r geiriadur Saesneg yn lled-ddiweddar ac mae'r diffiniad yn cyfeirio at y ddau ystyr: A cupboard or cubby-hole, especially used as a hiding place. To hug or cuddle (a person).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf