Dyn o Wynedd wedi cwympo o uchder ar wyliau ym Malta - cwest

Bu farw Kieran Thomas Hughes, 25, tra'r oedd ar ei wyliau ym Malta
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd, a ddisgynnodd o falconi tra'r oedd ar ei wyliau ym Malta.
Bu farw Kieran Thomas Hughes, peiriannydd meddalwedd o Nant Gwynant, ar ôl disgyn mewn gwesty yn Triq Spinola, St Julian's.
Cadarnhaodd Sarah Riley, y crwner cynorthwyol, fod Mr Hughes wedi marw yn nhref Triq Spinola am 04:00 ar 11 Gorffennaf.
Dywedodd Ms Riley wrth y gwrandawiad byr yng Nghaernarfon bod yr awdurdodau ym Malta wedi nodi achos ei farwolaeth fel anafiadau oherwydd cwymp o uchder.
"Mae'n fwy tebygol na pheidio mai marwolaeth annaturiol ydy hon," meddai Ms Riley.
Dywedodd nad oedd amgylchiadau'r farwolaeth wedi cael ei sefydlu ym Malta eto ac y byddai'r cwest yn cael ei ohirio wrth i ymchwiliadau barhau.

Roedd Mr Hughes yn byw yn Nant Gwynant ac yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc yng Ngaerwen, Ynys Môn.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon bu hefyd yn astudio peirianneg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae ei deulu wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn awyddus i bobl ei gofio fel person "hapus, cariadus, llawn bywyd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf