Dewis peidio â darlledu rhaglen nosweithiol Y Babell Lên yn 'siomedig'

Llun o logo rhaglen Y Babell Lên
Disgrifiad o’r llun,

Bydd "rhaglenni'r dydd a'r nos yn taro mewn i'r Babell" yn ddyddiol, meddai S4C

  • Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad S4C i beidio â darlledu rhaglen nosweithiol Y Babell Lên drwy gydol wythnos Eisteddfod Wrecsam yn siomedig, yn ôl rhai o feirdd Cymru.

Bydd sioe lwyfan newydd Eisteddfod Wrecsam 'Y Stand' ddim yn cael ei darlledu yn llawn chwaith.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru yn dweud mai mater i S4C yw hyn.

Mewn ymateb fe ddywedodd S4C y bydd "rhaglenni'r dydd a'r nos yn taro mewn i'r Babell yn ddyddiol i adlewyrchu'r digwyddiadau" sy'n cael eu cynnal yno.

Llun o'r Prifardd Jim Parc Nest
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prifardd Jim Parc Nest yn poeni y bydd y golled yn fawr o beidio mynd i'r Eisteddfod eleni

Mae'n debyg mai'r Babell Lên yw'r babell fwyaf adnabyddus ar y maes ar ôl y pafiliwn ac wedi bod yn rhan o'r brifwyl ers dros hanner canrif.

Fel un na fydd yn teithio i Wrecsam eleni, mae un o hoelion wyth Y Babell Lên, Y Prifardd Jim Parc Nest, yn dweud bod penderfyniad S4C yn destun siom.

"Dyma'r Eisteddfod gynta' fydda i'n ei cholli ers rai blynyddoedd," meddai.

"Mae'r golled yn mynd i fod yn fawr 'wi'n ofni. Dyna yw popeth wrth gwrs, yw bo' fi'n mynd i gael blas yr Eisteddfod trwy gyfrwng y teledu, ac os oes 'na dorri ar hwnnw, fe fydd yn amlwg yn siom."

Llun o Karen Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwestiynau heb eu hateb, yn ôl Karen Owen

Yn ôl bardd fydd yn cyfrannu at arlwy yr wythnos, mae yna gwestiynau heb eu hateb.

"Ydi o'n ormod i ofyn am un awr y dydd am wythnos, un wythnos y flwyddyn, yn ein un gŵyl Genedlaethol lle mae pobl yn gallu gweld sut mae'r iaith hynod 'ma sy' gynnon ni yn gallu cael ei ddefnyddio i drafod bob math o betha', ydy hynny'n ormod?" gofynnodd Karen Owen.

"Ac os ga' i ateb fy 'nghwestiwn [fy hun], dwi'm yn meddwl bod o'n ormod i ofyn, ond yn amlwg mae gan S4C eu rhesymau."

BBC Cymru sy'n cynhyrchu rhaglenni yr Eisteddfod Genedlaethol ar S4C.

Yn ogystal â darlledu byw o'r cystadlu, a hynt a helynt o'r maes drwy gydol yr wythnos, fe fydd tri o brif gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn cael eu darlledu ar S4C eleni.

Fe fydd blas hefyd o Sioe Agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol ar raglen Rhagflas o'r Eisteddfod ar y penwythnos cyntaf.

Yn ogystal, fe fydd y Gymanfa Ganu'n cael ei darlledu ar 3 Awst, Cyngerdd Cofio Dewi Pws ar 4 Awst, a chyngerdd nos Sadwrn o Lwyfan y Maes ar 9 Awst.

Llun o Huw Onllwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Huw Onllwyn ddim yn credu bod S4C wedi ystyried y goblygiadau yn llawn

Yn ôl Huw Onllwyn, colofnydd a sylwebydd ar y cyfryngau, mae'r Babell Lên yn cynnig cyfle i gael cynnwys "ar gof a chadw am flynyddoedd i bobl i astudio ac i fwynhau."

"Felly dwi ddim yn meddwl bod S4C wedi meddwl digon am oblygiadau hyn," meddai.

"Dwi'n meddwl bod e'n siomedig iawn ac ydy e'n arwydd, o bosib, bod S4C yn dumbo lawr tipyn bach gormod?" gofynnodd cyn ategu ei fod yn "benderfyniad siomedig".

Yn ôl Yr Eisteddfod a BBC Cymru, mater i S4C yw hyn, ac mewn ymateb mae S4C yn dweud bod "Y Babell Lên yn rhan annatod o'r Eisteddfod" a bydd "rhaglenni'r dydd a'r nos yn taro mewn i'r Babell" yn ddyddiol "i adlewyrchu'r digwyddiadau a'r bwrlwm yno."

"Bydd S4C yn darlledu gwasanaeth cynhwysfawr o'r Eisteddfod yn fyw bob dydd ar draws ein holl blatfformau gan gynnwys S4C Clic, BBCiPlayer ac YouTube S4C" ychwanegon nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.