Bro'r Eisteddfod: Am dro i Glynceiriog

Elin Llwyd Morgan
- Cyhoeddwyd
Lai nag wythnos nes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, yr awdures Elin Llwyd Morgan sy'n ein tywys i Ddyffryn Ceiriog.
Dyma gyfle i ddod i adnabod bro'r Eisteddfod ac un o gymunedau'r ardal sydd wedi bod yn casglu arian yn ddiwyd i gynnal y brifwyl.
Cymreictod y ffin
Cwm cyfrin ar y ffin â Lloegr ydi Dyffryn Ceiriog. Un o'r llefydd hynny sy'n rhoi'r argraff ei fod yn anghysbell am nad ydi o'n rhywle y byddai rhywun yn teithio trwyddo.
Serch hynny, mae o fewn cyrraedd rhwydd i rai o brif draffyrdd Prydain, yn ogystal ag arwain - o ben arall y dyffryn wrth droed mynyddoedd y Berwyn - at bentrefi a threfi perfeddwlad Powys, gan gynnwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant â'i Bistyll enwog.
Mae bron i ddeng mlynedd ar hugain ers i mi symud i fyw i Glynceiriog (prif bentre'r cwm) pan benderfynodd y cymar, Peris, ddychwelyd yma i fyw a gweithio efo'r cwmni teuluol (Theo Davies a'i Feibion) sy'n golygu 'mod i wedi byw fan hyn yn hirach nag ydw i wedi byw yn unlle arall erioed. Ac yma hefyd y cafodd ein mab Joel ei eni a'i fagu.

Elin, Joel a Peris
Er hynny, person dŵad ydw i'n dal i fod yn y bôn, fel sawl un o'm ffrindiau benywaidd, ynghyd â fy niweddar fam-yng-nghyfraith, Sydney Davies, a enillodd Fedal Goffa T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol, ieithyddol a chymunedol ei hardal.

Y ddiweddar Sydney Davies yn derbyn ei medal T.H.Parry-Williams (efo'i gŵr Theo y tu ôl iddi)
Credai Sydney fod ein rôl ni fel mewnfudwyr yn allweddol o ran cynnal y pethe, efallai am ein bod ni wedi symud yma o'r cadarnleoedd Cymraeg ac yn sylweddoli mor bwysig ydi morol am Gymreictod ar y Gororau.
Mae 'na frodorion sy'n gwneud hynny hefyd, wrth gwrs, ynghyd â chriw o ddysgwyr triw o du draw i Glawdd Offa.
Dyffryn tawel fu'n ferw o brysurdeb
Er mai dyma ward etholiadol fwyaf Cyngor Wrecsam o ran arwynebedd, mae'n llawer llai poblog nag ardaloedd eraill yn y fwrdeistref, ac yn wahanol iddynt hefyd o ran ei thirwedd fryniog a choediog.
O enau'r dyffryn yn y Waun, mae'r ffordd yn rhedeg yn gyfochrog ag Afon Ceiriog, gan fynd trwy bentrefi a phentrefannau Pontfadog, Dolywern, Glyn Ceiriog, Pandy a Thregeiriog cyn cyrraedd Llanarmon yn pen draw.

Yr olygfa o'r fryngaer yn Llanarmon
Er mor heddychlon ydi'r dyffryn erbyn heddiw, arferai fod yn ferw o brysurdeb rhwng ei felinau a'i chwareli niferus, ac yn 1873 agorwyd y Glyn Valley Tramway i gludo ithfaen a llechi, teithwyr a chyflenwadau, a cheir hanes a chreiriau 'Trên Bach y Glyn' mewn amgueddfa dreftadaeth yng nghanol y pentre.

Y bardd o'r 19eg ganrif a brodor o Lynceiriog - John Ceiriog Hughes
Gerllaw mae Neuadd Goffa Ceiriog, a agorwyd yn 1911 fel cofeb i'r bardd adnabyddus John Ceiriog Hughes. Mae gan yr adeilad gasgliad o gerfluniau a ffenestri lliw cywrain – rhai'n darlunio rhai o gymeriadau hanesyddol Cymru - ac amgueddfa sy'n cynnwys amrywiaeth ddiddorol o arddangosion unigryw.
Ond yn anad dim, mae'r neuadd yn ganolfan gymunedol o bwys lle cynhelir cyfarfodydd, ymarferion côr a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Yma hefyd mae Merched y Wawr yn cyfarfod, ac mae'r gwesteion sydd wedi dod atom ni dros y blynyddoedd bob amser yn dotio ati.
Yma y cynhaliwyd Arddangosfa Canmlwyddiant Dŵr Ceiriog 1923 am hanes yr ymgyrch ofer i foddi Ceiriog Uchaf dan ddwy gronfa ddŵr, â Lloyd George (a ddisgrifiodd y dyffryn fel 'darn bach o'r nefoedd ar y ddaear') ymhlith nifer o aelodau seneddol a wrthynebodd y cynllun gan Gorfforaeth Warrington.
Y llynedd cafwyd blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau yn dathlu canmlwyddiant geni'r llenor amryddawn Islwyn Ffowc Elis, y gwasgarwyd ei lwch yn ei gynefin yn Nantyr, hafan hudolus uwchlaw'r Glyn.
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024
Codi arian at Eisteddfod Wrecsam
Eleni rydyn ni wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau i godi arian at Eisteddfod Wrecsam, a chael lot o hwyl yn y broses gan ei fod yn rhywbeth sy'n dod â phobl at ei gilydd (yn lleol ac yn yr ardal ehangach); yn chwistrelliad adfywiol i'r gymuned a thu hwnt, yn enwedig ar ôl cyfnodau hesb y clo.
Wedi dweud hynny, yn ystod y cyfnodau hynny y des i werthfawrogi mwy ar fy milltir sgŵar, gan weld y cefn gwlad dramatig a'i olygfeydd ysgubol o 'nghwmpas drwy lygaid newydd.

Traphont y Waun o'r ddyfrbont
Mi fydda i hefyd yn mwynhau picio i dre fach ddifyr y Waun a mynd am dro dros y ddyfrbont ac ar hyd y gamlas; a thros y 'topie' i fwrlwm tre Llangollen.
Ac er nad ydi hiraeth am y môr yn rhywbeth sy' byth yn diflannu'n llwyr, o leia mae 'na ddigon o ddyfroedd o 'nghwmpas mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.
O ran hinsawdd, rydyn ni'n dueddol o gael tywydd poethach yn yr haf a thywydd oerach yn y gaeaf, ac yn llawer mwy tebygol o gael eira, a tydi'r wefr o weld y plu gwyn yn disgyn a gorchuddio pobman byth yn pylu.

Glynceiriog yn yr eira
Bywyd cymdeithasol
O ran bywyd cymdeithasol, mae 'na griw ohonom ni – Genod y Glyn – sy'n dod at ein gilydd yn rheolaidd am baned, llymed, pryd o fwyd ac ambell wibdaith (o Arfordir Môn i'r Amwythig, o Baris i Belffast), yn ogystal â chlwb darllen a chôr merched Lleisiau Ceiriog.
A thra bod dirfawr angen tafarn dda yn y Glyn ei hun, mae 'na dafarnau a gwestai eraill gwerth chweil yn y dyffryn, a braf ydi cael ambell noson allan yn Llangollen neu i gigs Cymraeg yn y Saith Seren yn Wrecsam.

Elin yn canu yng nghyngerdd Nadolig Lleisiau Ceiriog
Fedra'i ddim gwadu nad ydw i'n breuddwydio weithiau am y math o fwthyn lan môr y canai Cynan amdano, ynghyd â pied-à-terre mewn dinas neu dref - Caernarfon, dyweder – yn ychwanegol at ein prif breswylfa. Ond byddai hynny'n ddrud, yn strach, heb sôn am fod yn ddiegwyddor, a dwi'n grediniwr mewn cefnogi gwestai.
Hoffwn honni i ni fod yn ddigon hirben i brynu byngalo ein hymddeoliad – wedi'i leoli'n gyfleus yng nghanol y pentre a gyferbyn â'r syrjeri - dri degawd yn ôl, ond ffliwc lwyr oedd hynny fel yr unig dŷ addas oedd ar gael ar y pryd.
Teg dweud fod 'na lefydd llawer gwaeth i fyw ynddyn nhw, ac na chewch chi mo'ch siomi os dewch chi am sgowt i'r rhan gyfriniol hon o ogledd-ddwyrain Cymru.

Mwclis y ddraenen wen
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin