Ethol Cherry Vann yn Archesgob newydd Cymru

Esgob Mynwy, Cherry VannFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Cherry Vann yw'r ddynes gyntaf i hawlio teitl Archesgob Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Esgob Mynwy, Cherry Vann wedi cael ei hethol yn Archesgob Cymru - y ddynes gyntaf i gael ei hethol i'r swydd.

Cafodd ei dewis yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghas-gwent.

Bydd Ms Vann yn olynu Andrew John, wedi iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor.

Bydd Archesgob Cherry yn cael ei gorseddu yng Nghadeirlan Casnewydd maes o law.

Roedd pedwar esgob arall yn y ras, sef Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, Esgob Llandaf, Mary Stallard ac Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas.

Roedd yr enillydd angen sicrhau dau draean o'r pleidleisiau.

Fe allai'r Coleg Etholiadol fod wedi treulio hyd at dridiau'n dod i benderfyniad ond roedd yna gytundeb ar ail ddiwrnod y drafodaeth.

Cherry Vann yw'r 15fed person i hawlio teitl Archesgob Cymru.

Cherry VannFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ms Vann ei hethol yn dilyn pleidlais yn Eglwys San Pedr, Cas-gwent brynhawn Mercher

Mae Cherry Vann yn dod yn wreiddiol o Sir Gaerlŷr a chafodd ei hethol yn Esgob Mynwy ym mis Ionawr 2020.

Cyn hynny bu'n gwasanaethu fel Archddiacon yn Rochdale yn Esgobaeth Manceinion am 11 mlynedd.

Roedd yn un o'r menywod cyntaf i gael ei hordeinio fel offeiriad gan yr Eglwys yn Lloegr, a hynny yn ôl ym 1994.

Yn ogystal, mae hi wedi cyflawni sawl rôl flaenllaw o fewn yr Eglwys yn Lloegr - gan gynnwys rhai yn ymwneud â dosbarthu cyllid a chreu adnoddau i helpu'r eglwys fod yn fwy croesawgar i'r gymuned LHDT+.

'Dechrau newydd' i'r Eglwys

Mewn datganiad ar ôl cael ei hethol, dywedodd Ms Vann mai'r flaenoriaeth fydd adfer ymddiriedaeth.

"Y peth cyntaf y mae'n rhaid imi ei wneud yw sicrhau bod y materion sydd wedi cael eu codi yn y chwe mis diwethaf yn cael eu trin mewn ffordd addas," meddai.

"Ac fy mod yn gweithio i ddod ag iachâd a chymod ac i adeiladu lefel dda o ymddiriedaeth yn yr Eglwys ac yn y cymunedau y mae'r Eglwys yn eu gwasanaethu."

Ychwanegodd y byddai dechrau'r swydd fel "dechrau newydd" i'r eglwys, yn dilyn yr hyn a alwodd yn "deimlad o ofid ar draws yr eglwys" yn ddiweddar.

"Dwi'n meddwl, yn gobeithio y bydd pawb yn gweld hyn fel cyfle am ddechrau newydd, i ail-osod, a mynd â'r eglwys i gyfeiriad gwahanol iawn."

Ychwanegodd bod cael ei phenodi yn "fraint ac anrhydedd enfawr", ond yn ei dychryn rywfaint hefyd.

Diolchodd i'r coleg etholiadol am eu ffydd ynddi, gan ddweud y byddai'n "gwneud fy ngorau i wasanaethu'r Eglwys yng Nghymru i'r gorau y gallaf".

Pynciau cysylltiedig