Plaid Cymru yn gwahardd eu cangen leol yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Mari ArthurFfynhonnell y llun, Twitter/Mari Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Mari Arthur gafodd ei dewis gan y blaid yn ganolog fel yr ymgeisydd yn Llanelli

Mae Plaid Cymru wedi gwahardd cangen gyfan mewn ffrae dros benderfyniad penaethiaid y blaid i ddewis ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol llynedd.

Fe ddaeth y gwaharddiad wedi i gangen Tref Llanelli fynnu ymchwiliad i honiadau fod yr ymgeisydd, Mari Arthur, wedi torri rheolau.

Dywedodd Plaid Cymru fod gweithredoedd y gangen yn niweidio enw da'r blaid.

Yn ôl un ffynhonnell o fewn y blaid roedd y penderfyniad yn "llanast".

'Pell ohoni'

Bydd cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones yn arwain tasglu i geisio datrys y sefyllfa, ac yn cynnal cyfarfod gydag aelodau ddydd Llun.

Y gred yw bod nifer o aelodau'r blaid - o bosib hyd at 25 - bellach wedi gadael oherwydd y ffrae.

"Mae'n reit ddifrifol," meddai ffynhonnell o fewn y blaid.

"Dyw gwahardd y gangen ddim yn mynd i helpu pethau. Mae aelodau yn flin iawn, iawn lawr fan hyn."

Y llynedd fe benderfynodd y blaid yn ganolog nad oedd enillydd y bleidlais yn yr hystings lleol - Sean Rees - yn gymwys i gael ei ddewis fel yr ymgeisydd yn Llanelli oherwydd ei bod yn sedd darged.

Cafodd Mari Arthur - oedd yn drydydd yn yr hystings - ei dewis fel ymgeisydd y sedd yn lle hynny, gan ddod yn drydydd gydag 18% o'r bleidlais.

Disgrifiad o’r llun,

Sean Rees yn siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru

Fe wnaeth 26 o aelodau lleol wedyn gwyno fod Ms Arthur wedi torri nifer o reolau, gan gynnwys peidio rhannu set o oriadau i'r swyddfa.

Dywedodd aelodau fod Mr Rees, swyddog y wasg y blaid yn lleol, wedi cael ei atal rhag defnyddio cyfrif Twitter Plaid Cymru a'i orfodi i weithio o lyfrgell.

Maen nhw hefyd yn honni fod grŵp Facebook "cyfrinachol" wedi'i sefydlu gan ymgyrch Ms Arthur yn galw am gael gwared â rhai aelodau pwyllgor etholaeth Llanelli.

Cafodd dau o'r rheiny wnaeth gwyno - Gwyn Hopkins a Meilyr Hughes - eu gwahardd llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Ffred Jones yn cynnal cyfarfod yn Llanelli ddydd Llun

Fe wnaeth y gangen leol ryddhau datganiad ym mis Chwefror yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r broses o ddewis yr ymgeisydd, y cwynion, a gwahardd y ddau aelod "heb ddilyn y broses gywir".

Dywedon nhw fod ymgyrchu gwleidyddol lleol wedi mynd yn "amhosib", a bod y gangen wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd yr etholaeth Deris Williams a'r ysgrifennydd, sef Ms Arthur.

"Mae pob aelod o gangen y dref eisiau gweld y blaid yn symud ymlaen ac ennill ein sedd darged yn Llanelli unwaith eto," meddai'r datganiad.

"Ond allwn ni ddim bod yn fwy pell ohoni fel mae pethau'n sefyll."

'Cyfiawnder naturiol'

Mae'n debyg fod yr alwad am ymchwiliad annibynnol yn un o'r prif resymau pam fod Plaid Cymru bellach wedi gwahardd y gangen.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae cangen Tref Llanelli wedi cael eu gwahardd dros dro am dorri rheolau sefydlog y blaid.

"Penderfynwyd fod gweithredoedd y gangen yn niweidiol i enw da cyhoeddus y blaid, ac wedi torri rheolau cyfrinachedd y broses gwynion.

"Rydyn ni'n gweithio i ddatrys materion yn yr ardal ac yn benderfynol o ddod i ddatrysiad sydyn fel bod pob ochr yn gallu cydweithio mewn ffordd barchus ac effeithiol."

Dywedodd Howell Williams, ysgrifennydd y gangen, wrth BBC Cymru: "Yr unig beth 'dyn ni eisiau yw cyfiawnder naturiol ac ymchwiliad annibynnol go iawn.

"Dyw hi ddim yn edrych fel petai gennym ni broses deg."