Rhybudd fod cerbydau 4x4 yn dinistrio rhannau o Eryri

  • Cyhoeddwyd
Difrod yn ardal Cwm MaethlonFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Difrod yn ardal Cwm Maethlon

Mae rhannau o Eryri'n cael ei ddinistrio gan gerbydau 4x4, yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r awdurdod yn rhybuddio nad yw'n gallu fforddio atgyweirio difrod sylweddol i draciau yng Nghwm Maethlon ger Aberdyfi yng Ngwynedd - difrod sy'n cael ei achosi gan yrru gwrthgymdeithasol.

Dywedodd Cyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r traciau, y bydd swyddogion trafnidiaeth yn ymweld â'r safle.

Mae cangen gogledd Cymru o'r mudiad Glass (Green Lane Association) - sy'n annog pobl i ddefnyddio ffyrdd cefn gwlad heb darmac mewn ffordd gyfrifol - yn apelio ar yrwyr i gadw draw o'r ardal.

Dywedodd y Cwnstabl Dewi Evans o dîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru fod cerbyd yn sownd mewn ardal lle mae'n gyfreithiol i yrru cerbydau 4x4, ac y bydd yn cael ei symud wedi i'r tywydd wella.

Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri

Mewn datganiad dywedodd awdurdod y parc bod y sefyllfa yn "rhwystredig".

"Does dim ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill. Mae cynefinoedd bregus ac amgylchedd y parc cenedlaethol yn cael eu difetha wrth i'r traciau ledu, gan arwain at fwy o ddifrod," meddai'r datganiad.

"Mae'r gwaith atgyweirio yn rhy ddrud i'r awdurdod a pherchnogion tir ei gwblhau ac fe allai cost gorchmynion rheoli traffig fod yn sylweddol."

'Ymddygiad dinistriol'

Dywedodd yr awdurdod bod hawl cyfreithiol i gerbydau 4x4 i ddefnyddio'r hen draciau, ond nad yw gyrwyr yn meddwl am ddefnyddwyr eraill.

Mae Glass wedi cytuno i gyfrannu at gost gwaith adfer i un rhan o'r ffordd.

Fe fydd yr awdurdod yn parhau i gydweithio gyda Glass, perchnogion tir, Cyngor Gwynedd a thîm troseddau cefn gwlad yr heddlu i atal "ymddygiad dinistriol a gwrthgymdeithasol".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Bydd swyddogion o wasanaeth trafnidiaeth yn ymweld â'r safle i asesu cyflwr y ffordd ac i ystyried yr opsiynau posib i reoli llif traffig."