Deg delwedd annisgwyl o Gymru yn yr eira
- Cyhoeddwyd
Daeth eira a rhew dechrau Mawrth 2018 â golygfeydd newydd sbon i lawer ohonon ni:
1. Narnia ar stepen ein drws

Golygfa hudolus yng Nghaeau Pontcanna, Caerdydd...nid yn unig yr eira, ond y diffyg pobl!
2. Tu allan, tu mewn

Yr eira wedi llwyddo i ddod mewn i arcêd y Stryd Fawr, Caerdydd i greu golygfa hudolus arall
3. Llewpart? Yn ei gynefin? Yng Nghymru?

O'r diwedd, mae yna eira i Lewpart Eira Sŵ Mynydd Cymru, Bae Colwyn!
4. Angen wêdars yn yr ardd

Beth am eistedd wedi diwrnod caled o arddio?
5. Wynebau dieithr yn y cloddiau

Mae'r eira wedi ffurfio wyneb dieithr yng ngardd Meurig Davies ym Mhontgoch, ger Aberystwyth
6. Golygfa newydd o'r drws ffrynt

Nid yn aml mae trigolion y Barri'n agor y drws ffrynt i'r olygfa yma
7.Sgïo ar y stryd

Braf cael y cyfle i sgïo...ar y stryd...ym Mhenarth!
8. Ewyn fel eira

Mae'n edrych fel eira, ond ewyn y môr wedi ei chwythu gan y gwyntoedd cryfion ym Menllech, Ynys Môn ydy hwn
9. Afonydd wedi rhewi

Anaml mae trigolion Caerdydd yn gweld Afon Taf wedi rhewi
10. Ceir wedi eu claddu

Fydd y cwpl yma yn y Bont Faen ddim yn mynd adre yn y car heno