Anifeiliaid yn yr eira
- Cyhoeddwyd
Wrth i fwyd i adar bach brinhau yn y tywydd oer, cofiwch ofalu am yr anifeiliaid yw neges naturiaethwyr a charwyr anifeiliaid yn yr eira a'r rhew.
Mae ambell ymwelydd dieithr wedi bod yn chwilio am fwyd a diod yn ein gerddi ac mae na lot o gŵn wedi bod allan yn gwirioni ar yr eira. Felly dyma ambell lun o hynt a helynt rhai o'n ffrindiau blewog a phluog dros gyfnod rhewllyd diwedd Chwefror a dechrau Mawrth 2018.

Mae Keith O'Brien wedi gweld Gïach (Snipe) yn ei ardd am y tro cyntaf. Yn ôl y naturiaethwr Iolo Williams, mae wedi cael sawl adroddiad tebyg - dod i chwilio am fwyd mae'r adar bach llwglyd, meddai.

"Cofiwch fwydo'r adar, fel Raymond bob dydd yn y Pandy, Llangefni," meddai Hywel Meredydd a dynnodd y llun yma. Mae angen cyflenwad dŵr arnyn nhw hefyd os yw hi'n rhewi.

Mae Hywel Meredydd wedi gweld wiwerod coch yn chwilio am eu cnau yng nghoed y Pandy, Llangefni, hefyd.

Mae Caleb y ci ar ben ei ddigon yn Llidiardau ger y Bala!

Mae'n amlwg o wyneb Gwen ei bod hi yn mwynhau'r eira yng Nghaerdydd hefyd

Polly a Maddy, asynnod o Fettws Newydd, wedi eu denu allan o gysgod eu cwt gyda hen fara a moron gan Gareth Bryer

'Robin Goch ar ben y rhiniog', yn Llanfairpwll

Cyfle i sglefrio i'r hwyaid yma ym Mynydd Bodafon, Môn

Gwartheg duon Pentrefoelas ... neu ai rhai gwynion ydyn nhw?

Bydd ffermwyr Cymru wedi bod wrthi rownd y cloc yn gofalu am eu hanifeiliaid dros y dyddiau diwethaf

Roedd cyfle prin i lewpartod eira Sŵ Mynydd Cymru, Bae Colwyn, chwarae mewn eira go iawn

Lleucu Llwyd y gath yn gwneud dynwarediad o lewpart eira yng Nghaernarfon

Cob Cymreig ydy Sunny o Sir Ddinbych ac mae angen côt yn y tywydd oer

"Pah, pwy sydd eisiau llun neis arall o'r plant yn yr eira pan allwch chi gael fi yn y llun yn lle?" Mini'r pwdl yn dwyn y sylw i gyd yng Ngwalchmai, Ynys Môn