Pobl Caerfyrddin wedi'u 'brawychu a'u siomi' wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Wyrcws
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y wyrcws, gafodd ei adeiladu yn Oes Fictoria, yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca

Mae pobl Caerfyrddin wedi'u "brawychu a'u siomi" wedi tân yn un o adeiladau mwyaf hanesyddol y dref, yn ôl y Maer.

Roedd tua 20 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y fflamau yn hen Dloty Penlan ar Heol Bragdy toc cyn 17:00 brynhawn Gwener tan wedi 20:00.

Roedd y tloty, gafodd ei adeiladu yn Oes Fictoria, yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca.

Dywedodd y Maer, Alun Lenny mai'r "unig fendith yw na chafodd neb niwed yn y tân".

Disgrifiad,

Tân difrifol mewn hen wyrcws yng Nghaerfyrddin (Fideo Gareth Jones)

Ychwanegodd: "Cafodd pobl Caerfyrddin eu brawychu a'u siomi gan y difrod mawr a wnaed pan aeth hen Dloty Penlan, sy'n edrych i lawr dros ganol y dre, yn wenfflam bnawn ddoe.

"Yr unig fendith yw na chafodd neb niwed yn y tân, oedd yn cael ei yrru gan wynt nerthol.

"Mae'r diffoddwyr tân i'w canmol yn fawr iawn am rwystro'r fflamau rhag lledaenu i dai ac adeiladau cyfagos eraill, gan gynnwys Porth y Tloty, lle mae Plac Glas yn nodi ei bwysigrwydd hanesyddol.

"Mae'r heddlu wrthi y bore 'ma yn archwilio'r safle yn fanwl. Mae ffens uchel o gwmpas yr adeilad, ac roedd y drysau a'r ffenestri wedi cael eu cau gan baneli pren.

"D'oes wybod eto os gafodd y tân ei gynnau'n fwriadol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maer tref Caerfyrddin, Alun Lenny mai'r "unig fendith yw na chafodd neb niwed yn y tân"