3,000 o dai yn parhau heb ddŵr mewn rhai ardaloedd

  • Cyhoeddwyd
Poteli dwrFfynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae dŵr wedi bod yn cael ei ddarparu mewn poteli gan Dŵr Cymru mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fel yn Llansadwrn

Mae 3,000 o dai Cymru heb ddŵr ar ôl i bibau fyrstio oherwydd yr eira a'r tywydd oer diweddar, meddai Dŵr Cymru.

Mae'r cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog, Pencader yn Sir Gâr, Treletert yn Sir Benfro, Llandysul, Talgarreg a Synod Inn yng Ngheredigion.

Mae'r tywydd oer hefyd yn golygu bod dros 120 o ysgolion yn parhau i fod ynghau ddydd Llun.

Ym Mhowys mae pensiynwr yn dweud ei fod dal yn methu symud o'i gartref oherwydd bod lluwchfeydd eira ar y ffyrdd.

Disgrifiad,

Cyngor gan Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dŵr Cymru, i gwsmeriaid

Roedd rhai tai yng Ngwynedd wedi bod heb ddŵr dros y penwythnos, gan gynnwys cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog, Manod a Rhyd ger Llanfrothen.

Ymddiheuriad

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Dŵr Cymru, Peter Perry bod y 72 awr ddiwethaf wedi bod yn "heriol", mae hefyd wedi ymddiheuro i gwsmeriaid.

"Fel arfer mae tua 75 o bibau yn byrstio neu yn gollwng bob dydd. Ond ar hyn o bryd rydyn ni yn delio gyda 200 o bibau."

Disgrifiad o’r llun,

Contractwyr yn trwsio pibau oedd wedi byrstio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn

Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn blaenoriaethu cwsmeriaid bregus ac wedi trefnu llefydd i bobl fynd i nôl dŵr botel.

Nos Llun dywedodd Mr Perry eu bod yn gweithio i geisio datrys y problemau cyn gynted a phosibl.

"Hoffwn ymddiheuro'n daer i'm cwsmeriaid sy'n parhau i weld problemau gyda'i cyflenwad.

"Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau fod ein cyflenwadau dŵr yn gweithio - ond rydym yn ei gweld hi'n anodd dal fyny gyda'r galw gan gwsmeriaid.

"Rydym wedi lleihau'r nifer oedd sydd wedi'i heffeithio o 6,000 i 3,000 ac mae cyflenwad bellach wedi dychwelyd i Chwmclydach ac Abertyleri.

"Fe allai cwsmeriaid barhau i weld dŵr gydag ychydig o liw fel mae cyflenwadau'n dychwelyd, ac rydym yn gofyn i gwsmeriaid i beidio gadael tapiau i redeg er mwyn ein cynorthwyo i lenwi'r rhwydwaith yn gyflymach," meddai.

Mae Dŵr Cymru yn parhau i weithio a cheisio cael dŵr yn ôl i'r ardaloedd canlynol ac mae nhw wedi awgrymu pryd gallai dwr ddychwelyd i'r ardaloedd hynny:

  • Ynys Môn - (Llanddona) Bore Mawrth

  • Blaenau Ffestiniog - Prynhawn Mawrth

  • Synod Inn, Llandysul, Ffostrasol, Talgarreg, Ceredigion a Phencader Sir Gar - Prynhawn Mawrth

  • Tŷ Ddewi a Solfach - Prynhawn Mawrth

Ailagor ysgolion

Roedd disgwyl i'r rhan fwyaf o ysgolion Cymru ailagor ddydd Llun, ond ym Mlaenau Gwent roedd pob ysgol ynghau.

Roedd Cyngor Torfaen hefyd wedi dweud y byddai nifer o ysgolion y sir ar gau gan gynnwys Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Ysgol Ardudwy yn Harlech ddim ar agor am fod difrod sylweddol i'r to

Yn Rhondda Cynon Taf roedd nifer o ysgolion ynghau wedi i bibau dŵr dorri, a dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y byddai Ysgol Dŵr-y-Felin ynghau i flynyddoedd 7 ac 8 oherwydd difrod dŵr.

Roedd Cyngor Caerdydd yn annog pob ysgol i agor ddydd Llun os yn bosib, ond roedd cais i ddisgyblion Ysgol Gyfun Plasmawr ddod â bwyd eu hunain i'r ysgol oherwydd prinder bwyd yn y gegin.

Mae manylion yr ysgolion sydd ynghau isod.

'Syrffio ar yr eira'

Ffynhonnell y llun, Steffan Cole

Mae pensiynwr sy'n byw ger Llanfair ym Muallt, Powys wedi dweud ei fod yn dal methu gadael ei gartref oherwydd yr eira.

Dywedodd Ian Cole, sy'n 68 ac o Lansteffan, bod lluwchfeydd sy'n cyrraedd ei ysgwydd yn parhau yn yr ardal.

Dywedodd: "Fe wnes i gerdded i fyny at Eglwys Llansteffan ddoe. Roedd i fyny at fy mhen-glin yr holl ffordd, yr unig ffordd i symud yw cerdded dros y caeau."

Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu gyda'r cyngor am gymorth oherwydd bod meddyginiaeth sydd angen arno yn dechrau mynd yn brin.

"Mewn rhai llefydd mae'r lluwchfeydd dros uchder ysgwydd... Roeddwn i'n flinedig iawn ddoe ar ôl gorfod cerdded - mae'n rhaid syrffio ar yr eira."

Disgrifiad o’r llun,

Coed wedi dymchwel yn Nhywyn

Mae coed yn cwympo hefyd wedi achosi trafferthion mewn mannau yng Nghymru.

Bu un cartref yn Nhywyn, Meirionnydd yn hynod o ffodus i beidio cael difrod wedi i goed o ddau gyfeiriad syrthio yn ei ymyl ac mae cynghorwyr lleol yn credu efallai bod 1,000 o goed wedi dod i lawr.

Yn ôl maer y dref fe gwympodd rhwng 70-80 o goed yn un ardal o Stad Maengwyn ac mae'r safle wedi cau.

Yng nghaeau Ysgol Uwchradd Tywyn fe ddisgynnodd coeden gan achosi difrod i'r llinell nwy.

Disgrifiad o’r llun,

Chafodd neb eu hanafu er i'r gwynt achosi difrod ym Mharc Carafanau Sunnysands

Mae difrod hefyd wedi ei wneud i barc carafanau oherwydd gwyntoedd cryf.

Cafodd dros 50 o garafanau ym Mharc Carafanau Sunnysands yn Nhalybont yng Ngwynedd eu difrodi ac mae'r gwynt wedi gadael ei ôl ar do'r prif adeilad hefyd.

Yn Sir Ddinbych mae disgwyl i Fwlch yr Oernant agor ddydd Llun ond mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud y bydd rhai o ffyrdd bach y sir yn parhau i fod ar gau.

Mae rhybudd i yrwyr fod yn ofalus oherwydd y gall eira a gafodd ei sgubo o'r neilltu gwympo ar y ffyrdd.

Mae Trenau Arriva Cymru yn hyderus y bydd y rhan fwyaf o'u trenau yn teithio ond ni fydd gwasanaeth ar reilffordd Calon Cymru nac ym Mlaenau Ffestiniog.

Ysgolion

Mae manylion yr ysgolion sydd ynghau oherwydd tywydd garw ar gael ar wefannau'r cynghorau. Cliciwch ar y dolenni isod (nid yw'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg ar bob gwefan):