Ymchwiliad llofruddiaeth: Cadarnhau enw dynes
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Sir Gaerfyrddin fod archwiliad post mortem wedi ei gynnal ar fenyw 54 oed y cafwyd hyd i'w chorff mewn tŷ yn ardal Sanclêr ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai Fiona Jayne Scourfield oedd ei henw a bod ei theulu agos a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu yn parhau i atal mynediad i'r eiddo wrth i'r ymchwiliad barhau.
Cafodd bachgen 16 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae uned arbennig wedi'i sefydlu yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin a dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fferm Broadmoor ar y ffordd rhwng Sanclêr a Thalacharn tua 17:40.
Roedd Ms Scourfield yn weithgar gydag elusen achub cŵn UK-GSR a rhoddodd yr elusen deyrnged iddi ar eu tudalen Facebook: "Yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy, cafodd Fiona Scourfield, aka Suzi Wales, ei lladd neithiwr.
"Roedd Suzi yn un o'n haelodau hiraf, oedd yn cefnogi'r gwasanaeth achub yn llwyr. Ei chi UK-GSR Bruno oedd ei holl fyd.
"Gweithiodd Suzi'n ddiflino i wneud y byd yn lle gwell i anifeiliaid ac mae ei cholli yn golled anferth nid yn unig i ni ond i anifeiliaid ar draws y byd."