'Llusgo traed annerbyniol' ar ffordd osgoi Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
traffig bontnewydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod oedi pellach cyn gwneud penderfyniad ar ffordd osgoi i Gaernarfon a Bontnewydd yng Ngwynedd.

'Nôl yn yr hydref fe ddywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n ystyried adroddiad yr archwilydd ac yn gwneud penderfyniad terfynol yn ystod y gaeaf.

Ond maen nhw nawr yn dweud bod angen rhagor o amser i ystyried o ganlyniad i'r "maint sylweddol o ohebiaeth" a gafwyd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd AC ac AS Plaid Cymru yn Arfon y byddai "unrhyw lusgo traed pellach yn annerbyniol".

'Hynod bwysig'

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal ym mis Mehefin, a hynny bron i 10 mlynedd ers dechrau trafod adeiladu ffordd osgoi yn yr ardal.

Yn wreiddiol, roedd y gwaith ar y ffordd osgoi chwe milltir (9.8km) i fod i ddechrau yn hydref 2017 a chael ei gwblhau ddiwedd 2019.

Dywedodd Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS fod "nifer o addewidion wedi eu torri" ynghylch y ffordd osgoi a bod "etholwyr yn rhwystredig gydag oedi parhaol".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

"Mae'r ffordd osgoi eisoes ddwy flynedd ar ei hôl hi. Cafwyd addewid gan Lywodraeth Lafur Cymru y byddai penderfyniad yn cael ei wneud yn y Flwyddyn Newydd," meddai'r ddau mewn datganiad.

"Wel, mae'r Flwyddyn Newydd wedi pasio ers tro ac rydym yn dal i aros am gyhoeddiad."

Ychwanegodd y gwleidyddion fod "ffordd osgoi Caernarfon yn brosiect hynod bwysig i'r ardal".

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu a chadarnhau dyddiad cychwyn heb unrhyw oedi pellach. Byddai unrhyw lusgo traed pellach yn annerbyniol."

'Gyrwyr anghyfrifol'

Mae trigolion pentrefi Saron a Llanfaglan wedi codi pryder am yrwyr yn defnyddio'r ffordd drwy'r ardal er mwyn osgoi pentref Bontnewydd ar adegau prysur.

"Mae'r traffig sy'n mynd heibio yn y bore neu ar ddiwedd y dydd yn mynd ar sbîd gwirioneddol o hurt," meddai Lynn Roberts.

"Y perygl ydy na wnaiff dim byd ddigwydd i sortio fo allan tan fod 'na ddamwain difrifol yn digwydd i blentyn neu oedolyn."

Ychwanegodd Ifor Williams, sydd yn gynghorydd cymuned dros Lanfaglan, fod rhai gyrwyr yn "hollol anghyfrifol" wrth yrru drwy'r pentref ar wib.

"Mae hyn yn broblem sydd 'di bod efo ni ers dros 20 mlynedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ffordd yn dechrau ar gylchfan y Goat â'r A487 a'r A499

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ystyried yn ofalus y canfyddiadau ac argymhellion yn adroddiad yr archwilydd a gafwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol.

"Mae'n hanfodol ac yn hollol iawn fod digon o ystyriaeth yn cael ei roi i'r holl dystiolaeth, ac mae delio gyda maint mor sylweddol o ohebiaeth fel rhan o'r broses statudol yn anochel yn cymryd amser i'w bwyso a mesur yn llawn.

"Byddai'n hollol amharchus a ddim o fudd i neb i ruthro i benderfyniad cyn ystyried y nifer uchel o gyflwyniadau o blaid ac yn erbyn y cynlluniau.

"Bydd penderfyniad ar y cynllun yn cael ei wneud yn ystod y gwanwyn."