193 mlynedd o garchar rhwng 28 aelod o gang cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae 28 o bobl wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 193 o flynyddoedd o garchar ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau gwerth miliynau o bunnau yn Aberystwyth a Llanelli.
Am gyfnod o dair blynedd a hanner, roedd aelodau'r gang yn cludo cocên a heroin o Benmaenmawr a Chyffordd Llandudno yn Sir Conwy i Geredigion a Sir Gaerfyrddin, lle roedd unigolion lleol yn eu dosbarthu.
Fe gafodd y diffynyddion eu harestio fel rhan o Ymgyrch Ulysses - un o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth yn hanes Heddlu Dyfed Powys - wedi nifer o bobl farw o ganlyniad cymryd cyffuriau rhwng 2014 a 2017.
Dywedodd yr heddlu fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio heroin wedi lleihau yn ardal Llanelli ers iddyn nhw gynnal cyrchoedd.
Oherwydd nifer y diffynyddion fe gymrodd bedwar diwrnod i'w dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd y dedfrydau'n amrywio o 16 mlynedd o garchar i dair blynedd a hanner dan glo.
Roedd y gang, oedd hefyd yn cynnwys unigolion o Lerpwl, yn cynllwynio i gyflenwi dros 20 cilogram o heroin, chocên ar draws Cymru, yn ogystal ag MDMA a'r cyffuriau Dosbarth B, canabis a ketamine.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y gang yn un soffistigedig oedd yn gweithredu ar raddfa ddiwydiannol, ac yn cadw'r cyffuriau'n ofalus mewn lleoliadau gwledig anodd i'w cyrraedd.
Fel rhan o Ymgyrch Ulysses fe wnaeth swyddogion troseddau seibr arbenigol archwilio 111 o ffonau symudol a mwy na 76,000 o dudalennau o ddata.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Rhys Jones o Dîm Troseddau Difrifol a Threfnedig y llu fod heddiw'n ddiwrnod "gorfoleddus" i'r llu, a bod swyddogion wedi treulio cyfnodau hir oddi cartref er mwyn sicrhau cyfiawnder.
"Mae camddefnyddio cyffuriau'n creu gofid, anobaith a niwed sylweddol i'n cymunedau," meddai.
"Rwy'n gobeithio bod y dedfrydau yma'n danfon neges glir, ddiamwys i'r rhai sy'n cyflenwi a dosbarthu cyffuriau - fe wnawn ni weithredu'n gadarn yn eich erbyn... does nunlle i guddio."
Ar ôl gorffen dedfrydu'r diffynyddion, fe ddywedodd y Barnwr Paul Thomas fod yr ymchwiliad wedi bod yn un "anferthol ac eithriadol", ac mae wedi cymeradwyo pum aelod o'r tîm ymchwilio yn enwedig.
Wrth groesawu'r dedfrydau, fe ddywedodd Kelly Huggins ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod cydweithio da wedi helpu cyflwyno achos cryf i'r llys, er y cymhlethdodau, a gorfodi'r diffynyddion i bledio'n euog.
"Bu'n rhaid trafod swmp mawr o ddeunydd, gan gynnwys tystiolaeth adnabod platiau cerbydau yn dangos cyffuriau'n cael eu cludo i Gymru a data ffôn yn dangos lefel y trefniadau rhwng y diffynyddion," meddai.