Ysgol Uwchradd Y Drenewydd dan fesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Y DrenewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arolygwyr yn ymweld â'r ysgol unwaith eto ymhen tri mis

Mae Cyngor Powys wedi cadarnhau fod Ysgol Uwchradd Y Drenewydd wedi cael ei rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn adroddiad beirniadol gan gorff arolygu Estyn.

Yn ôl yr arolygwyr nid yw'r ysgol wedi dangos digon o gynnydd ar ôl arolwg blaenorol ym Mai 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys bod y newyddion yn "siomedig ond nid yn annisgwyl".

Fel rhan o'r mesurau bydd tîm o uwch-swyddogion addysg a chynghorwyr arbennig yn gweithio gyda'r ysgol er mwyn gwella'r perfformiad.

Mae Estyn wedi gwneud saith o argymhellion, gan gynnwys:

  • Gwella perfformiad cyfnod allweddol 4, gan gynnwys mathemateg a Saesneg;

  • Gwella presenoldeb disgyblion;

  • Arolygu a chryfhau trefniadau i daclo bwlio;

  • Gwella safon dysgu ac asesu.

Pennaeth newydd

Dywedodd Myfanwy Alexander, aelod cabinet Cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb am addysg, fod y penderfyniad yn "siomedig ond nid yn annisgwyl".

"Mae'r tîm rheoli newydd yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd yn gwybod y camau y mae rhaid iddynt eu cymryd i sicrhau bod yr ysgol yn gwella'n gyflym," meddai.

"Bydd yr awdurdod yn rhoi'r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar yr ysgol yn ystod eu taith wella."

Fe fydd arolygwyr Estyn yn ymweld â'r ysgol unwaith yn rhagor ymhen tri mis.

Dywedodd cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, Mr Peter Hough: "Mae'r pennaeth newydd, a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Medi, yn cydnabod bod angen newid sylweddol.

"Mae gennym lawer i'w wneud ac mae pawb sydd yn rhan o'r ysgol yn benderfynol o wneud y newidiadau i sicrhau ein bod yn symud allan o fesurau arbennig cyn gynted ag y bo modd."