Ffrae'n corddi ynglŷn â chodi tâl i barcio ger Ynys Lawd
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae yn corddi ar Ynys Môn yn dilyn penderfyniad RSPB Cymru i wneud cais i godi tâl i barcio ym meysydd parcio eu safle ger Ynys Lawd.
Ar hyn o bryd does dim rhaid talu am barcio ond mae'r swm arfaethedig o £5 am ddiwrnod wedi cythruddo rhai o drigolion yr ynys.
Mae deiseb wedi ei llunio yn lleol a hyd yma mae bron i 400 o bobl wedi'i arwyddo.
Ond mae'r RSPB yn dweud eu bod yn gorfod codi tâl er mwyn cael digon o gyllid i allu "parhau â'n gwaith cadwraeth".
'Gofyn llawer'
Yn ôl Maer Tref Caergybi, Ann Kennedy, mae'r hyn mae'r RSPB eisiau ei wneud yn annheg.
Dywedodd wrth raglen Y Post Cyntaf: "'Da ni'n byw mewn cyfnod o doriadau a rŵan mi fydd rhaid i bobl sydd wedi arfer dod yma dalu £5. Mae hynny'n gofyn llawer," meddai.
"Efallai y byddai'n syniad gofyn i RSPB Cymru ailedrych ar eu cynlluniau ac efallai gadael i bobl dalu fesul awr yn hytrach na £5 am y diwrnod.
"Mae rhai yn dod yma am dro am tuag awr. Mae £5 yn ddrud os 'da chi'n ystyried hynny... ac mae'n rhaid cofio bod nifer hefyd yn gwario arian yn siop yr RSPB.
"Ond dwi'n meddwl y bydd gorfodi pobl i dalu am barcio yn golygu llai o ymwelwyr yma."
Yn ôl Llinos Jones Parry o RSPB Cymru mae costau cynyddol yn golygu eu bod nhw wedi gorfod gweithredu.
"Mae'r penderfyniad i godi tâl am barcio wedi bod yn un anodd a 'dy o ddim wedi cael ei wneud ar chwarae bach. Gobeithio y bydd pobl yn parhau i ddod yma," meddai.
"Mae'r £5 yna'n galluogi mynediad i'n holl wasanaethau ni yma ar y warchodfa.
"Er mwyn i ni gyrraedd y cyllid angenrheidiol 'da ni ei angen er mwyn parhau â'n gwaith cadwraeth yma, mae'n rhaid i ni ofyn i bobl dalu am barcio."