Sicrwydd i ddyfodol gwasanaeth bws arfordir Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Meinir Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meinir Jones bod poblogrwydd y gwasanaeth wedi cynyddu

Bydd gwasanaeth bws arfordir Llŷn yn ail-ddechrau adeg y Pasg yn dilyn pryder am ei ddyfodol.

Yn ystod y gwanwyn a'r haf mae'r bws yn rhedeg ddwywaith y dydd rhwng Nefyn, Aberdaron a Llanbedrog, ac mae'n hynod boblogaidd gydag ymwelwyr a thrigolion lleol.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi cymhorthdal am dair blynedd i sefydlu'r gwasanaeth ond daeth yr arian hwnnw i ben fis Hydref y llynedd.

Ond bellach mae sicrwydd am dymor arall wedi i gorff Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn ddod i'r adwy.

3,300 o deithwyr

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu tair blynedd yn ôl, a'r llynedd cafodd 3,300 o deithwyr eu cludo rhwng pentrefi arfordir Llŷn, gyda dwy ran o dair o'r teithwyr yn ymwelwyr.

Er bod yna amserlen sefydlog, mae modd i deithwyr ffonio i ofyn i'r bws stopio i'w codi mewn mannau eraill ar y daith.

Pan ddaeth cymhorthdal Cyfoeth Naturiol Cymru i ben roedd pryder am ddyfodol y gwasanaeth, ond rŵan mae'r trefnwyr wedi derbyn sicrwydd ariannol am dymor arall.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bws yn cludo teithwyr ar hyn Pen Llŷn hyd at Aberdaron

Dywedodd swyddog project y gwasanaeth, Meinir Jones: "'Da ni'n ofnadwy o falch, roedd o'n dipyn o boen meddwl dros y gaeaf yn meddwl o ble roedd yr arian yn mynd i ddod.

"Mae'r gwasanaeth wedi codi mewn poblogrwydd trwy'r adeg fel mae pobl yn dod i wybod amdano fo.

"Os oeddan ni'n mynd i fethu ei gynnal o eleni, mi fuasai yn anodd iawn ei ailgychwyn o eto.

"'Da ni'n ofnadwy o falch o gael yr arian ac mi fyddwn ni yn ailddechrau'r gwasanaeth ddiwedd y mis yma."

'Gwerthfawr iawn'

Dywedodd un sy'n defnyddio'r gwasanaeth, Buddug Jones o Nefyn, ei fod yn "werthfawr iawn".

"Dwi'n mynd â phlant fy mhlant i Aberdaron a treulio'r diwrnod yno, a mae o'n fendigedig."

Dywedodd Jane Griffiths, hefyd o Nefyn: "Mae o'n werthfawr iawn, cael mynd i Aberdaron neu Llanbedrog, a cherdded yr arfordir, gwario mewn siopau, mae o'n beneffitio Pen Llŷn ar y cyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Jones (chw) ac Iain Roberts bod y gwasanaeth yn un gwerthfawr i'w busnesau

Mae Grŵp Twristiaeth Aberdaron wedi cyfrannu £2,000 tuag at y cynllun, sy'n golygu fod y gwasanaeth eleni yn gallu dechrau fis ynghynt na'r bwriad.

Dywedodd perchennog maes carafanau Dwyros yn Aberdaron, Alun Jones: "Erbyn rŵan mae'r cwsmeriaid sy'n dod acw wedi rhyw arfer hefo'r gwasanaeth ac felly maen nhw yn disgwyl ei weld o a d'eud y gwir, a dwi'n meddwl y buasai'n golled fawr petai'r gwasanaeth ddim yn cario mlaen.

"Mae yna nifer fawr yn defnyddio fo ar gyfer cerdded ar hyd Llwybr Yr Arfordir, ac mae hynna yn sicrhau fod yna lai o geir ar y ffyrdd ac mae hynny'n beth da am fod ffyrdd Pen Llŷn rhai digon cul."

Mae Iain Roberts o Westy Tŷ Newydd yn Aberdaron wedi rhoi cyfraniad ychwanegol i un y Grŵp Twristiaeth: "Mae'r gwaith caled, o'i sefydlu, wedi ei wneud a 'da ni'n teimlo fod y buddsoddiad wedi bod yn un gwerth chweil a'i bod yn bwysig ei gario ymlaen."

Bydd y gwasanaeth yn ail-ddechrau o Nefyn am 09:00 ar 29 Mawrth, bum niwrnod yr wythnos o ddydd Iau i ddydd Llun, tan ddiwedd mis Hydref.