Cyngor Gwynedd i gwtogi treuliau a thâl ychwanegol staff

  • Cyhoeddwyd
cyngor gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cwtogi ar faint mae staff yn gallu hawlio ar eu treuliau teithio, mewn ymgais i arbed £300,000.

Ar hyn o bryd mae gweithwyr yn gallu hawlio costau os ydyn nhw'n teithio o adref ar fater yn ymwneud â'r cyngor, hyd yn oed os ydyn nhw'n pasio'u gweithle.

O fis Gorffennaf ymlaen fyddan nhw ddim yn cael hawlio'r rhan honno o'r siwrne o'u cartref i'r swyddfa.

Mae undeb Unsain Cymru wedi beirniadu'r newidiadau, gan ddweud y bydd yn ei gwneud hi'n anoddach i'r cyngor ddenu staff newydd.

'Dim synnwyr'

O ganlyniad i'r newid er enghraifft, byddai unrhyw weithiwr sydd yn teithio o'u cartref ym Mhen Llŷn i Birmingham ar fusnes cyngor, yn gorfod tynnu eu taith arferol i Gaernarfon a nôl allan o'u costau treuliau.

Dywedodd adroddiad gafodd ei gymeradwyo gan gabinet y cyngor y byddai'n arbed tua £290,000, digon i warchod 20 o swyddi llawn amser - ond mae disgwyl i'r newid effeithio ar bron i 2,500 o weithwyr.

Fe fydd taliadau ychwanegol i staff am weithio oriau anghymdeithasol gyda'r hwyr hefyd yn cael eu cwtogi.

Ond fydd y newid i dreuliau teithio ddim yn effeithio ar ofalwyr, a dywedodd y cyngor y byddai'r effaith ar staff ar gyflogau is yn cael ei lleihau wrth i'r isafswm cyflog godi i £9.01 yr awr ym mis Ebrill 2018.

Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Dilwyn Williams, mai'r bwriad oedd "lleihau costau'r cyngor a bod yn deg gyda'r gweithlu".

"Pa synnwyr sydd 'na i gael eich talu am siwrne fyddech chi'n ei gwneud beth bynnag?"

Ond mae Unsain wedi beirniadu'r newidiadau, yn enwedig y bwriad i gwtogi'r cyflog ychwanegol i weithwyr ar shifftiau hwyr gan na fyddai hynny'n "arbed yr un swydd".

"Rhain yw arwyr Gwynedd - falle nad ydyn nhw'n ennill llawer ond maen nhw'n gweithio'n hynod o galed," meddai Geoff Edkins o'r undeb.