'Diffyg ymgynghori' ar gau safle Coleg Llandrillo
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr cymunedol yn "siomedig" am ddiffyg ymgynghori cyn cyhoeddiad y bydd coleg yn cau yn Sir Ddinbych.
Daeth i'r amlwg ddydd Mercher y byddai safle Coleg Llandrillo yng nghanol y dref yn cau ym mis Medi.
Mae'r coleg yn dweud nad yw'r ganolfan yn ymarferol bellach.
Ond dywedodd y cynghorydd ar gyfer y ward ble mae'r coleg wedi'i leoli nad oedd swyddogion lleol yn ymwybodol o fwriad Grŵp Llandrillo Menai cyn y cyhoeddiad.
Mae myfyrwyr wedi galw cyfarfod cyhoeddus ar gyfer dydd Gwener, ac mae disgwyl i'r AS lleol Chris Ruane fynychu.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bod awdurdodau lleol a cholegau "i fod i weithio mewn partneriaeth" ond mai'r cyhoeddiad oedd "y cyntaf y clywodd y cyngor amdano".
Ychwanegodd y dylai'r coleg fod wedi siarad â'r cyngor "i rannu beth yw'r problemau a gweld sut y gallwn ni fod wedi'u datrys gyda'n gilydd".
Dywedodd prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans, bod "torri newyddion drwg wastad yn anodd iawn" ond ei bod yn iawn i "ddweud wrth staff yn gyntaf".
"Trwy amseru'r cyhoeddiad yn y ffordd yma mae hi wedi bod yn bosib diogelu pob un swydd a sicrhau bod staff yn gallu cael eu hadleoli o fewn Grŵp Llandrillo Menai."