Heddlu: 'Diogelwch plant yn fater i bawb'

  • Cyhoeddwyd
manteisio ar blantFfynhonnell y llun, PA

Mae Heddlu Dyfed Powys yn annog pobl i gysylltu â nhw os ydyn nhw'n synhwyro bod oedolyn yn datblygu perthynas anaddas gyda phlentyn o fewn eu cymuned.

Ddydd Sul, mae hi'n ddiwrnod codi ymwybyddiaeth am achosion o'r fath ac mae holl heddluoedd Cymru yn cefnogi'r ymgyrch gan roi gwybodaeth am gamdrin rhywiol.

Mewn datganiad, mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud fod sicrhau diogelwch plant yn fater i bawb, a bod plant yn gallu cael eu camdrin beth bynnag fo'u cefndir diwylliannol, eu cenedligrwydd, eu crefydd a'u rhywedd.

Drwy gydol yr wythnos, bydd swyddogion o'r llu yn cydweithio ag ysgolion a grwpiau eraill i annog y cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o'r arwyddion.

'Mater i bawb'

Dywedodd Linda Elias, cydlynydd Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Heddlu Dyfed Powys: "Mae camfanteisio ar blant yn rhywiol yn fater i bawb, ac mae'n digwydd o fewn ein cymunedau.

"Dydy hyn ddim yn fater i ardaloedd mwy trefol o fewn y DU yn unig, rydym yn gwybod ei fod yn digwydd yn lleol ac rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn y plant hynny sy'n fregus, a hefyd i ddelio â'r oedolion sy'n manteisio ar blant.

"Mae ganddon ni swyddogion sydd wedi eu hyfforddi i adnabod yr arwyddion cynnar all nodi'r plant sydd mewn perygl, ond mae gennyn ni gyd ran i'w chwarae er mwyn sicrhau diogelwch plant."

Mae hi'n gofyn i urnhyw un sy'n amau bod plentyn mewn perygl i gysylltu a'r heddlu ar 101.

Arwyddion y gallai plentyn fod mewn perygl:

  • Ymddygiad cyfrinachol

  • Ymbellhau o'i ffrindiau arferol

  • Ymwneud â dynion neu fenywod hŷn

  • Diflannu heb esboniad

  • Bod yn amddiffynol am yr hyn maen nhw'n wneud neu ble yn union maen nhw wedi bod

  • Derbyn galwadau neu negeseuon rhyfedd

  • Cael eitemau ac anrhegion newydd drud