Tipuric ac Amos yng ngharfan saith-bob-ochr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hallam Amos a Justin TipuricFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hallam Amos a Justin Tipuric wedi ennill 71 o gapiau rhwng y ddau ohonynt

Mae dau o chwaraewyr rhyngwladol Cymru - Justin Tipuric a Hallam Amos - wedi'u cynnwys yn y garfan saith-bob-ochr fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia fis nesaf.

Roedd disgwyl na fyddai'r blaenasgellwr, Tipuric, yn cael caniatad i chwarae gan y Gweilch, ond mae wedi'i gynnwys yng ngharfan yr hyfforddwr Gareth Williams.

Mae'r asgellwr, Amos, wedi ennill 15 o gapiau dros Gymru, ond ni chwaraeodd unrhyw ran ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Adam Thomas fydd capten y garfan wrth iddyn nhw anelu am fedal yn Gold Coast.

Mae'r gemau'n cael eu cynnal rhwng 4 a 15 Ebrill, ac mae tîm saith-bob-ochr Cymru mewn grŵp gyda Fiji, Uganda a Sri Lanka.

Carfan Cymru

Luke Treharne, Morgan Williams, Angus O'Brien, Luke Morgan, Owen Jenkins, Tom Williams, Ethan Davies, James Benjamin, Adam Thomas (C), Justin Tipuric, Hallam Amos, Benjamin Roach.

Wrth gefn: Tomi Lewis, Harri Millard.