Canfod troseddwr rhyw o Aberystwyth yn farw cyn dedfrydu

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Abertawe

Clywodd llys fod dyn o Aberystwyth oedd i fod i gael ei ddedfrydu am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant wedi ei ganfod yn farw.

Dywedodd yr erlyniad yn Llys y Goron Abertawe fod yr heddlu wedi dod o hyd i Alan William Burrell, 54 oed, yn farw yn ei fflat, a'i bod yn ymddangos ei fod wedi lladd ei hun.

Clywodd y barnwr Geraint Williams fod Burrell eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau pan ymddangosodd ger ynadon Aberystwyth.

Yn yr achos gwreiddiol, clywodd y llys fod Burrell wedi lawrlwytho dros 13,000 o ddelweddau anweddus.

Roedd wedi cael gorchymyn i gofrestru gyda'r heddlu fel troseddwr rhyw.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r fflat ar ôl i gymdogion gwyno am arogl drwg oedd yn dod o'r adeilad.

Pan ddaeth yr heddlu o hyd i'w gorff roedd pacedi gwag o dabledi a photeli alcohol wrth ei ymyl, a nodyn ganddo yn dweud ei fod yn gobeithio na fyddai'n deffro eto.

Dywedodd y barnwr y byddai'n dod a'r achos i ben unwaith iddo gael cadarnhad ffurfiol o'r farwolaeth.