Uno cynghorau: Cwestiynau i'w hateb, medd arweinydd

  • Cyhoeddwyd
Rob Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, yn dweud bod nifer o gwestiynau i'w hateb

Mae arweinydd ail gyngor mwyaf Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai rhai cynghorau yn fodlon uno'n wirfoddol ond eu bod angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe y byddai ei awdurdod ei hun yn fodlon uno ond bod angen atebion i rai cwestiynau allweddol gan gynnwys cysoni biliau treth y cyngor rhwng gwahanol awdurdodau lleol.

Wrth siarad ar raglen Sunday Politics Wales dywedodd Mr Stewart: "Os ydych yn edrych ar dreth cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot mae'r gwahaniaeth yn £230. Fydden i ddim yn disgwyl i drethdalwyr Abertawe dalu mwy."

Dywedodd y Cynghorydd Stewart hefyd fod y gost o uno'r cynghorau yn debygol o fod yn £250m ond nad oedd arweinwyr cynghorau wedi cael gwybod pwy a fyddai'n talu'r bil hwnnw a hynny o ystyried fod cyllidebau cynghorau eisoes wedi cael eu cwtogi.

Ddydd Gwener roedd yna gryn ddadlau wrth i'r ysgrifennydd llywodraeth leol gyfarfod ag arweinwyr cynghorau i drafod y cynlluniau arfaethedig i ostwng nifer y cynghorau

Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd dywedodd Alun Davies os nad oedd cynghorau yn barod i gofleidio newid fe "fyddan nhw'n cael eu siapio gan y newid".

Cyhuddodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox, y gweinidog o ailgylchu cynlluniau a oedd eisoes wedi methu.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Alun Davies gynlluniau a allai weld 22 o gynghorau Cymru yn gostwng i 10.