Dyn yn euog o lofruddio dynes yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi penderfynu fod dyn yn euog o lofruddio dynes 25 oed yn Y Rhyl.
Mae Redvers James Bickely hefyd wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio tri pherson arall yn ystod yr un digwyddiad.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Llys Aderyn Du yn Y Rhyl nos Sadwrn 9 Medi i adroddiadau o drywanu honedig.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe glywodd y llys fod Bickley, 21 oed, wedi ei "feistroli gan ffyrnigrwydd" ac wedi "colli ei dymer" cyn llofruddio Tyler Denton.
Bu'n rhaid i'r tri arall, Cody a Shannen Denton [chwiorydd Tyler] a'u tad Paul Denton, gael triniaeth ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Yn gynharach yn yr achos, roedd Bickley wedi dweud wrth y rheithgor nad oedd yn teimlo "fel ei hun" a bod ei "ochr dywyll wedi cymryd drosodd".
Clywodd y llys fod gan Mr Bickley ddiddordeb mewn cleddyfau a bod ganddo gasgliad ohonynt.
Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael "syniadau yn chwarae ar ei feddwl o ladd Tyler Denton, ei lladd tra oedd hi'n cysgu drwy ei thrywanu yn ei gwddf".
Fe fydd Bickley yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018