Loteri Cymru'n mynd i ddwylo gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Loteri CymruFfynhonnell y llun, Loteri Cymru

Wedi 11 mis yn unig mae Loteri Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac na fyddan nhw'n masnachu eto.

Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cwmni maes o law, gan gynnwys atebion i bryderon pobl sydd ag arian yn weddill yn eu cyfrifon.

Roedd tocynnau'r loteri yn costio £1 ac yn cynnig jacpot wythnosol o £25,000 gyda'r enillion yn mynd i achosion cymunedol.

Dywedodd Loteri Cymru eu bod yn gobeithio gwerthu'r busnes, gan alluogi pobl i barhau i brynu tocynnau loteri ac ennill gwobrau.

Yn ôl Hanfod Cymru, yr elusen a oedd yn dosbarthu grantiau o'r refeniw, fe fyddan nhw'n ystyried eu dyfodol yn sgil y newyddion.

'Ddim yn hyfyw'

Mewn datganiad brynhawn Mawrth, dywedodd y cwmni:

"Ar ôl 11 mis o fasnachu mae'n flin gennym gyhoeddi bod Loteri Cymru wedi rhoi'r gorau i weithredu a ni fydd rhifau'n cael eu tynnu eto.

"Tra roedd gan y Loteri nifer cynyddol o chwaraewyr ffyddlon wythnosol, yn anffodus nid oedd hynny'n ddigon i wneud y Loteri yn hyfyw yn ariannol.

"Mae cyfarwyddwyr Loteri Cymru wedi gosod Rhybudd o Fwriad gerbron llys er mwyn gosod y cwmni yn nwylo'r Gweinyddwyr.

"Yr ydym yn falch bod £120,000 wedi ei ddosbarthu i achosion da yng Nghymru a dros £350,000 o arian mewn gwobrau."

Loteri CymruFfynhonnell y llun, Loteri Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Loteri Cymru ei lansio fis Ebrill 2017 gyda'r bwriad o godi £5m ar gyfer achosion da dros gyfnod o bum mlynedd

Pwysleisiodd y cwmni eu bod wedi dileu bob debyd uniongyrchol i'r loteri ac na fydd mwy o arian yn cael ei dynnu o gyfrifon pobl.

Ond dyw'r cwmni ddim wedi rhoi sicrwydd y bydd pobl sydd ag arian yn eu cyfrifon presennol, neu sydd wedi ennill gwobrau ond heb eu hawlio, yn cael eu had-dalu.

Dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio cyhoeddi datganiad "positif" am hynny ar eu gwefan yn y dyfodol agos.

'Ystyried ein dyfodol'

Hanfod Cymru yw'r corff a sefydlwyd i ddosbarthu'r arian elusennol a gasglwyd gan Loteri Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Siôn Brynach, ei bod hi'n "dristwch i Fwrdd Hanfod Cymru glywed heddiw bod Loteri Cymru wedi rhoi'r gorau i weithredu" ac y byddan nhw'n "ystyried dyfodol yr elusen yn sgîl newyddion siomedig yr wythnos hon."

"Fel elusen annibynol a sefydlwyd i ddosbarthu grantiau i elusennau led-led Cymru, mae Hanfod Cymru yn ddiolchgar tu hwnt i Loteri Cymru, a'r holl chwaraewyr a brynodd docynnau, am eu cefnogaeth dros yr un mis ar ddeg diwethaf.

"Mae'n fater o falchder gwirioneddol i Hanfod Cymru ein bod wedi medru rhoi grantiau i dros 50 o elusennau led-led Cymru ac wedi medru gwneud gwahaniaeth gwrioneddol i gymunedau lleol ar draws ein cenedl.

"Bydd canlyniad trydedd rownd grantiau bach Hanfod Cymru yn cael ei gyhoeddi'n fuan, a bydd dosbarthu'r grantiau rheini yn dod â chyfanswm y grantiau sydd wedi eu rhannu gan Hanfod Cymru, diolch i gefnogaeth Loteri Cymru a'i chwaraewyr, i £120,000 ers mis Gorffennaf diwethaf."

Loteri S4CFfynhonnell y llun, Loteri Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhifau Loteri Cymru yn cael eu cyhoeddi ar S4C bob nos Wener

Roedd y loteri'n cael ei darlledu ar S4C, ac mae'r sianel wedi ymateb i'r newydd gyda datganiad sy'n dweud:

"Bwriad S4C drwy brynu hawliau i ddarlledu Loteri Cymru bob nos Wener oedd denu gwylwyr newydd i'r sianel a chefnogi'r ymdrech i godi arian i achosion da Cymreig. Fe lwyddwyd i ddenu gwylwyr ac fe lwyddwyd i godi arian i achosion da.

"Fe fu'n gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth o S4C ymysg cynulleidfaoedd sydd yn llai cyfarwydd â'r sianel.

"Mae S4C yn siomedig na lwyddodd y fenter."