'Rhaid newid' i warchod data personol ar y wê
- Cyhoeddwyd
Mae un o uwch reolwyr cwmni cyfryngau cymdeithasol Snapchat wedi dweud bod angen i gwmniau wneud mwy i warchod data personol pobl.
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd Gareth Williams, sy'n Bennaeth Ymchwil Defnyddwyr i Snapchat, bod y problemau sy'n wynebu cwmni Facebook ar hyn o bryd yn mynd i effeithio ar bob un cwmni sy'n defnyddio data yn yr un ffordd.
Ar hyn o bryd mae cwmni Facebook yn cael eu cyhuddo o ganiatàu i gwmni chwilota drwy wybodaeth 50 miliwn o ddefnyddwyr er mwyn eu targedu adeg etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016.
Dywedodd Mr Williams, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, y byddai'n rhaid i Snapchat newid rhai o'u trefniadau diogelwch er mwyn mynd i'r afael â'r perygl o gam-ddefnyddio data.
Gwybodaeth bersonol
"Yr unig broblem ydy mae y data yn rwla, a da ni wedi gweld banciau yn cael eu hacio."
"[Dwi'n] siwr fedrith data rhywun gael ei hacio, yn anffodus. Mae pawb yn trio i neud yn siwr fod o wedi cael ei gloi lawr."
Ond mae Mr Williams yn pwysleisio fod Snapchat yn wahanol i Facebook, oherwydd dyw lluniau a datganiadau ddim yn aros ar Snapchat am fwy na 24 awr.
Gyda Facebook mae'r wybodaeth yno am byth, meddai.
Wrth drafod systemau diogelwch Snapchat, dywedodd Mr Williams fod y cwmni o ddifri' am ddiogelwch ar y wê, a bod ganddyn nhw dîm o bobl yn gweithio 24 awr y dydd yn sicrhau bod hynny'n digwydd.