Cynlluniau trafnidiaeth gornest focsio yn 'ffars'

  • Cyhoeddwyd
Gornest focsioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Anthony Joshua a Joseph Parker yn ymladd yn Stadiwm Principality nos Sadwrn

Mae cwmnïau trenau wedi eu beirniadu am beidio â darparu digon o wasanaethau ar gyfer miloedd fydd yn gwylio gornest focsio yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae disgwyl 65,000 yn Stadiwm Principality i wylio Anthony Joshua a Joseph Parker yn ymladd.

Mae disgwyl i'r brif ornest ddechrau am 22:30, ond fe fydd y trên olaf yn gadael Caerdydd am Lundain awr cyn hynny.

Mae'r trên olaf o Gaerdydd i Fryste am 22:47 a'r olaf i Gasnewydd am 23:30.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod y cynlluniau'n "warthus" ac y dylai'r cwmnïau ddarparu trenau ychwanegol.

Dywedodd Great Western Railways y byddan nhw'n darparu'r amserlen arferol ac na allan nhw drefnu gwasanaethau ychwanegol i Paddington oherwydd y bydd gwaith angenrheidiol yn cael ei gynnal ar y lein rhwng Bristol Parkway a Swindon nos Sadwrn.

'Ffars'

"Fe ddylen ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arddangos y ddinas i'r byd - a darparu trenau ychwanegol - dim llai", medd Mr Davies, AC dros Ganol De Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trên olaf i Lundain yn gadael Caerdydd awr cyn y mae'r ornest rhwng Joshua a Parker i fod i ddechrau

Cyfeiriodd Mr Davies at y "ffars" a ddigwyddodd y tro diwethaf i Joshua ymladd yng Nghaerdydd - pan fu'n rhaid i nifer o ymwelwyr aros oriau am dacsi.

"Dydy hyn ddim digon da, ac fe ddylid gwneud mwy i sicrhau nad yw'n digwydd eto.

"Mae hi'n ffars llwyr fod gwaith peirianyddol yn digwydd ar yr un noson - hyd yn oed os oes sicrwydd na fydd y trafferthion mor wael â'r tro diwethaf."

Gwaith angenrheidiol

Mae rheolwyr y rheilffyrdd yn cyfarfod Cyngor Caerdydd a rheolwyr Stadiwm Principality yn fisol, ond er i'r ornest gael ei gadarnhau ym mis Ionawr, dywedodd cwmnïau trên nad oedden nhw'n gallu cynnig mwy o deithiau'r penwythnos hwn.

Dywedodd datganiad ar y cyd gan Great Western Railways, Trenau Arriva Cymru a Network Rail: "Mae'r gwaith angenrheidiol yma yn gofyn am beirianwyr ac offer arbenigol ac mae wedi golygu 18 mis o gynllunio."

Ychwanegodd y byddai canslo'r gwaith ac aildrefnu yn golygu "costau uwch i'r trethdalwr".