Y dwsin disglair: Straeon Cymry fu’n bencampwyr byd

  • Cyhoeddwyd
parker a josephFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Anthony Joshua a Joseph Parker mewn cynhadledd i'r wasg i hyrwyddo eu gornest

Ar nos Sadwrn 31 Mawrth bydd gornest focsio pwysau trwm yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.

Bydd Joseph Parker o Seland Newydd, sydd wedi ennill pob un o'i 24 gornest broffesiynol, yn wynebu'r Sais Anthony Joshua, sydd hefyd yn ddiguro mewn 20 gornest.

Mae Joshua yn bencampwr sefydliadau'r IBF, IBO ac WBA, ac mae Parker yn bencampwr WBO. Bydd y cyfan yn y fantol yng Nghaerdydd.

Hefyd yn ymladd yno cyn y brif ornest fydd paffwyr o Gymru. Bydd Joe Cordina o Gaerdydd yn wynebu'r Sais Andy Townend mewn gornest pwysau ysgafn, a bydd Morgan Jones o Aberdâr yn wynebu Mose Auimatagi Jnr o Seland Newydd mewn gornest uwch-ganol.

A fydd Cordina neu Jones yn ymuno â'r rhestr o Gymry sydd wedi ennill pencampwriaeth y byd rhyw ddydd?

Dyma'r deuddeg pencampwr byd o Gymru:

Percy Jones (ennill 50 - colli 3 - cyfartal 3)

Disgrifiad o’r llun,

Percy Jones oedd y Cymro cyntaf i'w goroni yn bencampwr y byd yn y sgwâr bocsio pan drechodd o Bill Ladbury yn eu gornest pwysau pry (flyweight). Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i focsio yn 23 oed pan aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd 50 o'i 56 gornest broffesiynol. Collodd ei goes yn y rhyfel a bu farw o'i anafiadau yn 1922, yn 29 oed.

Freddie Welsh (78-5-7)

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Freddie Welsh, o Bontypridd, yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd yn 1915. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn America ac roedd yn arloeswr fel hyfforddwr ac yn credu mewn diet arbennig i athletwyr. Bu farw yn Efrog Newydd yn 1927 yn 41 oed, ond erbyn hynny roedd wedi colli ei gyfoeth.

Jimmy Wilde (132-3-1)

Disgrifiad o’r llun,

Dyn byr ac eiddil-yr-olwg oedd Jimmy Wilde o Bendyrus, Y Rhondda, ond roedd ganddo sgiliau bocsio arbennig. Dim ond tair o'i 141 gornest gollodd 'The Mighty Atom'. Enillodd Bencampwriaeth Pwysau Pry y Byd yn 1916, ac mae nifer yn credu hyd heddiw mai Wilde yw un o'r bocswyr pwysau pry gorau erioed.

Howard Winstone (61-6)

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Howard Winstone o Ferthyr Tudful fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958. Enillodd 61 o'i 67 gornest broffesiynol. Daeth yn bencampwr byd yn 1968 wedi iddo guro Mitsunori Seki. Rhoddodd y gorau i focsio yn 29 oed gan fyw ym Merthyr nes ei farwolaeth yn 2000. Mae cerflun efydd ohono yn ei dref enedigol.

Steve Robinson (32-17-2)

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steve Robinson (chwith) yn gweithio yn siop Debenhams yng Nghaerdydd cyn iddo ennill Pencampwriaeth Pwysau Plu WBO y byd yn 1993. Collodd ei deitl yn erbyn Naseem Hamed yng Nghaerdydd ym mis Medi 1995.

Robbie Regan (17-2-3)

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robbie Regan (dde), o Gaerffili, yn Bencampwr Pwysau Bantam WBO y Byd yn 1996. Ond er iddo ennill y gwregys, mae rhai yn credu y gallai fod wedi mynd ymhellach. Bu'n rhaid iddo ymddeol yn 1998 yn dilyn anaf i'w ymennydd, ac wedi hyn dechreuodd ei fywyd fynd ar chwal a chafodd ei garcharu yn 2004 am ymosod ar gwpl yn eu cartref.

Joe Calzaghe (46-0)

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Joe Calzaghe (ar y dde) o Drecelyn Bencampwriaeth Uwch Ganol y Byd yn erbyn Chris Eubank yn 1997. Enillodd pob un o'i 46 gornest broffesiynol gan ennill Bencampwriaeth Is-drwm y Byd ar ddiwedd ei yrfa. Mae'n cael ei gydnabod gan lawer fel un o focswyr gorau Prydain erioed.

Barry Jones (18-1-1)

Disgrifiad o’r llun,

Cipiodd Jones Bencampwriaeth Uwch Bwysau Plu y Byd yn erbyn Wilson Palacio o Golombia yn 1997. Cafodd 20 o ornestau proffesiynol gan ennill 18 ohonyn nhw. Mae bellach yn gweithio fel sylwebydd bocsio.

Enzo Maccarinelli (41 -8)

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Enzo Maccarinelli (dde) o Abertawe Bencampwriaeth Go-drwm y Byd yn 2003. Ond collodd ei deitl yn erbyn David Haye yn 2008. Yn Rhagfyr 2015 enillodd yn erbyn un o'r bocswyr mwyaf medrus erioed, Roy Jones Jnr. Collodd yn y rownd gyntaf mewn gornest yn erbyn Dmytro Kucher o Wcráin ym Mehefin 2016, ac fe benderfynodd ymddeol o focsio wedi'r ornest.

Gavin Rees (38-4-1)

Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd Gavin Rees o Drecelyn yn cael ei hyfforddi gan Enzo Calzaghe, tad Joe. Enillodd Bencampwriaeth Uwch Bwysau Ysgafn y Byd trwy guro'r Ffrancwr Souleymane M'baye yn 2007, ond roedd wastad amheuaeth am ba bwysau y dylai fod yn bocsio - ysgafn, gor-ysgafn neu bwysau welter. Collodd dair o'i bedair gornest olaf a rhoddodd y gorau i focsio yn 2014.

Nathan Cleverly (30-4)

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Nathan Cleverly, o Gefn Fforest, radd mewn Mathemateg o Brifysgol Caerdydd. Enillodd Bencampwriaeth Is-Drwm y Byd yn erbyn y Ffrancwr Nadjib Mohammedi yn 2010. Ond yn 2013 collodd yn erbyn Sergey Kovalev mewn gornest yng Nghaerdydd. Penderfynodd Cleverly ymddeol o focsio y llynedd wedi'r golled i Badou Jack.

Lee Selby (26-1)

Disgrifiad o’r llun,

Lee Selby, o'r Barri, yw Pencampwr Byd diweddara' Cymru. Cipiodd Selby, 29, goron Pwysau Plu IBF y Byd yn erbyn Evgeny Gradovich o Rwsia yn 2015. Dim ond unwaith mae o wedi colli mewn 27 gornest, a bydd yn wynebu Josh Warrington yn Leeds ar 19 Mai.