Rhybudd bod tagfeydd mawr yn bosib ar benwythnos y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Tagfeydd ar drafforddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i dros 950,000 o gerbydau deithio ar ffyrdd Cymru dros y penwythnos

Mae arbenigwyr yn argymell i yrwyr adael yn gynnar dros y penwythnos er mwyn osgoi tagfeydd posib ar rai o ffyrdd Cymru.

Mae disgwyl gweld cynnydd o 20% yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd, cyfanswm o dros 950,000 yng Nghymru.

Y cyngor i deithwyr yw gadael cyn 10:00 os am fethu'r cyfnodau prysuraf.

Bydd peth gwaith ar y rheilffyrdd hefyd a all effeithio cynlluniau teithwyr o dde Cymru i gyfeiriad Bryste.

Mae Inrix yn rhagweld tagfeydd dros gyfnod hirach o'i gymharu â'r un cyfnod mewn blynyddoedd blaenorol.

Mewn ymateb i hyn mae'r cwmni yn gofyn i deithwyr sy'n gorfod teithio yn ystod y cyfnodau prysuraf i ystyried llwybrau amrywiol ac edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn hwyluso'r daith.

Ardaloedd sydd yn debygol o gael eu heffeithio yn ôl Inrix:

  • M4 i gyfeiriad y gorllewin rhwng Caerleon yng Nghasnewydd, cyffordd 25 a chylchfan Coryton i'r gogledd o Gaerdydd, cyffordd 32;

  • M4 i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 33 a chyffordd 48, Pontarddulais;

  • A447 rhwng Sanclêr a Phenfro;

  • A48 a'r A40 i gyfeiriad y gorllewin rhwng Llanelli a Sanclêr.

Am fwy o wybodaeth gall deithwyr gyfeirio at y gwefannau isod:

Cyngor Inrix yw i yrwyr adael yn fuan yn y bore neu ddisgwyl tan ddydd Sadwrn neu ddydd Sul pan fydd "25% yn llai o draffig o'i gymharu â'r arfer".