Rhybudd teithio i gefnogwyr bocsio Joshua a Parker

  • Cyhoeddwyd
Anthony Joshua a Joseph ParkerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail waith i Anthony Joshua (chwith) ymladd yng Nghaerdydd yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn Carlos Takam mis Hydref y llynedd.

Mae cefnogwyr bocsio sy'n teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn yn cael eu rhybuddio fod posib y bydd y trenau olaf yn gadael y Brif Ddinas cyn y brif ornest orffen.

Mae disgwyl 65,000 o bobl yn Stadiwm Principality i wylio Anthony Joshua a Joseph Parker yn ymladd nos Sadwrn.

Mae disgwyl i'r brif ornest ddechrau am 22:30 ond mae'r trên olaf i Lundain am 21:25, Bryste am 22:47 ac i Ben-y-bont ac Abertawe am 23:08.

Bydd gwasanaeth tacsi sydd yn cael ei redeg gan y cyngor yn gorffen am hanner nos.

Er hyn, bydd y gwasanaeth tacsi ar Heol Eglwys Fair yn parhau i weithredu wedi hyn.

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd galw am dacsis yn uchel iawn yn dilyn y digwyddiad ac yn cynghori pobl i archebu rhai o flaen llaw.

Ffynhonnell y llun, Principality Stadium
Disgrifiad o’r llun,

Map o'r strydoedd sydd ar gau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae cwmnïau trenau yn argymell i bobl gyrraedd yn fuan gan fod disgwyl i'w gwasanaethau fod yn brysur trwy'r dydd.

Bydd Cardiff Bus yn darparu gwasanaeth hwyrnos wrth i'r bysiau olaf adael am 03:30 o ganol y ddinas.

Bydd ffyrdd yng nghanol dinas Caerdydd yn cau am 16:00 gyda'r stadiwm yn agor eu giatiau i'r cyhoedd am 17:00.

Mae Stadiwm Principality hefyd wedi rhybuddio cefnogwyr i ddisgwyl camau rheoli diogelwch uchel a all achosi oedi wrth fynd mewn i'r stadiwm.

Mae disgwyl i ffordd yr M4 i mewn ac allan o Gaerdydd hefyd fod yn "hynod o brysur" yn ôl yr awdurdodau trafnidiaeth.