Sêr Cymru'n dychwelyd i'r Scarlets i herio La Rochelle

  • Cyhoeddwyd
Hadleigh ParkesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hadleigh Parkes arwyddo cytundeb newydd gyda'r rhanbarth yn gynharach yr wythnos yma

Mae pum chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ôl yn nhîm y Scarlets ar gyfer y gêm yn erbyn La Rochelle yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Gwener.

Dyma'r tro cyntaf i'r Scarlets gyrraedd y rownd yma yn y prif gystadleuaeth Ewropeaidd ers tymor 2006-07.

Mae Leigh Halfpenny, Gareth Davies, Rob Evans a'r capten Ken Owens oll yn dechrau ar ôl colli'r gêm Pro14 yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf.

Mae'r canolwr Hadleigh Parkes hefyd yn dychwelyd wedi iddo arwyddo cytundeb newydd gyda'r rhanbarth yn gynharach yr wythnos yma.

Mae capten Yr Alban John Barclay hefyd wedi'i gynnwys yn y rheng-ôl gydag Aaron Shingler a James Davies.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wayne Pivac y bydd yn rhaid i'r Scarlets fod ar eu gorau'n ymosodol ac yn amddiffynnol

Mae capasiti Parc y Scarlets wedi cael ei gynyddu i dros 15,000 ar gyfer y gêm trwy ddefnyddio seddi dros dro, a doedd dim tocynnau ar ôl o fewn munudau iddyn nhw fynd ar werth.

"Maen nhw'n mynd i fod yn llond llaw, rydyn ni'n gwybod hynny," meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.

"Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau, nid yn unig yn ymosod ond yn amddiffyn hefyd."

Fe wnaeth La Rochelle drechu Bordeaux yn eu gêm ddiwethaf, ond fe wnaethon nhw golli pedair yn olynol yn ystod y Chwe Gwlad a dydyn nhw ddim wedi ennill oddi cartref o gwbl yn 2018.

Tîm y Scarlets

Halfpenny; Asquith, S Williams, Parkes, S Evans; Patchell, G Davies; R Evans, Owens (c), Lee, Beirne, Bulbring, Shingler, J Davies, Barclay.

Eilyddion: Elias, D Evans, Kruger, Rawlins, Boyde, J Macleod, A Davies, D Jones.

Tîm La Rochelle

Bouldoire; Rattez, Retiere, Aguillon, Barry; Sinzelle, Bales; Priso, Bourgarit, Atonio, Sazy (c), Tanguy, Botia, Kieft, Afa Amosa

Eilyddion: Forbes, Tufele, Boughanmi, Lamboley, Gourdon, Kerr-Barlow, Noble, Boudehent.