Rhybudd am law trwm yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
glaw

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm yng Nghymru brynhawn Gwener.

Bydd y rhybudd mewn grym o 15:00 ddydd Gwener, 30 Mawrth nes 10:00 fore Sadwrn, 31 Mawrth.

Yn ôl y rhybudd mae disgwyl "glaw trwm a pharhaus" dros dde ddwyrain Cymru dros yr oriau nesaf.

Fe fydd dwr ar y ffyrdd yn creu amodau gyrru anodd.

Mae'r rhybudd hefyd yn dweud fod llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau yn debygol.