Ymchwilio i honiadau o hiliaeth yng ngêm y Scarlets

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae rhanbarth rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymchwilio i honiadau o ymddygiad hiliol yn ystod rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Yn dilyn buddugoliaeth y Scarlets o 29-17 yn erbyn La Rochelle ar 30 Mawrth, fe aeth rhai ar wefannau cymdeithasol i gwyno am ymddygiad hiliol gan gefnogwyr.

"Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal er mwyn cael y ffeithiau llawn a chefndir y digwyddiad cyn gwneud sylw pellach," meddai llefarydd ar ran y clwb.

"Mae gyda ni hanes balch o fod yn glwb teuluol ac mae digwyddiadau fel hyn yn hollol annerbyniol."

'Mater difrifol iawn'

Ychwanegodd y clwb: "Fe fwynheuodd y mwyafrif llethol o'r 15,000 oedd ym Mharc y Scarlets ar gyfer gêm rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop achlysur teuluol cynnes bendigedig."

Mae'r Scarlets wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr am y tro cyntaf ers 2007.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff rygbi Ewropeaidd sy'n cynnal y gystadleuaeth, yr EPRC, eu bod yn "cydweithio â'r Scarlets er mwyn deall ffeithiau'r digwyddiad adroddwyd yn dilyn y rownd wyth olaf" ond nad oedd ganddyn nhw sylw pellach ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wayne Pivac bod y rhanbarth yn cymryd yr honiadau o ddifrif

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, nad oedd e wedi clywed unrhyw beth, ond ei fod yn awyddus i'r clwb ymchwilio i'r mater: "Fel clwb, rydyn ni'n ei ystyried yn fater difrifol iawn, iawn.

"Does dim lle i hyn yn ein cymdeithas ni, heb sôn am ym Mharc y Scarlets.

"Felly rydyn ni'n siomedig iawn o glywed hyn a byddwn yn aros am ganlyniadau'r ymholiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd.

"Os caiff unrhyw beth ei gadarnhau, byddwn yn ei drin o ddifrif ac yn gweithredu fel bo'r angen."