Arestio dyn ar amheuaeth o fod â sylweddau ffrwydrol

  • Cyhoeddwyd
Bron y Wern, Bagillt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tîm diffodd bomiau yr heddlu eu galw i'r digwyddiad

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â sylweddau ffrwydrol yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yn Sir y Fflint fore Mercher.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi'u galw i fflat ym Mron y Wern, Bagillt toc wedi 05:30 yn dilyn adroddiadau o bryderon am les dyn.

Fe wnaeth y llu hefyd symud pobl o dair fflat cyfagos ar ôl iddyn nhw ganfod "cemegau a sylweddau eraill" yn yr adeilad.

Cafodd y dyn, sydd yn ei 30au, ei gymryd i'r ysbyty, cyn cael ei ryddhau oddi yno a'i arestio gan yr heddlu.

Dywedodd y llu bod y cemegion wedi cael eu cymryd oddi yno ac y byddan nhw'n cael eu profi gan arbenigwyr.

'Sylweddau'n achosi pryder'

Cafodd tîm diffodd bomiau eu galw i'r digwyddiad hefyd, ond maen nhw wedi gadael bellach, ac mae'r holl drigolion wedi cael dychwelyd i'w cartrefi.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Nick Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Canfuwyd y digwyddiad gan swyddogion a oedd yn ymateb yn dilyn pryderon am ddiogelwch dyn.

"Yn ffodus, roeddent wedi sylwi ar sylweddau yn y fflat a oedd yn achosi pryder iddynt.

"Mae trigolyn y fflat wedi'i ryddhau o'r ysbyty ond mae wedi'i arestio o dan amheuaeth o feddu sylweddau ffrwydrol. Mae'n disgwyl i gael ei gyfweld gan dditectifs."