Cofio 'cyfraniad enfawr' Selwyn Williams i gymunedau Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar bu farw Selwyn Williams, ymgyrchydd ac academydd fu'n flaengar ym maes sefydlu mentrau cymunedol. Ei gyfaill Robat Idris sy'n cofio ei gyfraniad i'w gymdeithas a'i wlad.

Pan groniclir hanes ein cyfnod gan hanesydd mwy craff na'r cyffredin, proffwydaf y bydd yr enw Sel Wilias yn un fydd yn cael ei gofio am ei gyfraniad enfawr i ddatblygu'r syniad o Gymunedoli fel ffordd o rymuso cymunedau Cymru.
Gwnaeth hyn yn ei ardal ei hun ym Mlaenau Ffestiniog drwy Cwmni Bro, a chyn hynny yn Llanrug lle y bu'n greiddiol wrth i'r papur bro Eco'r Wyddfa gael ei sefydlu yn yr 1970au.
Dangosodd y ffordd i gymunedau ledled Cymru sut i fod yn ffyniannus, sut i fod yn hyderus, sut i fyw drwy'r Gymraeg - a sut i gael hwyl! A dyna fydd ei waddol parhaol.
Heb dynnu sylw ato ei hun (heblaw am ei ddillad coch chwedlonol!), arweiniai heb arwain, rhoes addysg heb bregethu, a rhannodd garedigrwydd yn ddiwarafun a hael.
Model i drawsnewid Cymru
Penllanw ei lafur lleol yw Cwmni Bro Ffestiniog, sy'n cynnwys dros ddwsin o fentrau a busnesau cymunedol. Dros amser, cydweithredodd mentrau eraill yn ardaloedd y chwareli fel Dyffryn Nantlle (Yr Orsaf) a Dyffryn Ogwen (Partneriaeth Ogwen) er mwyn datblygu ac ehangu cryfder a gwytnwch cymunedau a ddiberfeddwyd ac a anghofiwyd gan gyfalafiaeth wedi i'w cyfoeth gael ei echdynnu.
Credai Sel fod yna fodd i adfywio cymunedau, eu grymuso a'u gwneud yn wytnach drwy berchnogi asedau'r gymuned honno, a'i fod yn fodel economaidd a allai drawsnewid rhagolygon Cymru, o'i fabwysiadu drwy'r wlad.
Ffurfiwyd Cymunedoli Cyf yng ngwanwyn 2023. Erbyn hyn mae 45 o aelodau. Mae'r ffigyrau canlynol yn dangos fod yr economi gymunedol yn sylweddol ac yn llwyddiannus. Asedau £43.2 miliwn; cyfanswm trosiant £13.56 miliwn; cyflogi 239 llawn amser a 215 rhan amser; 536 o wirfoddolwyr.
Ac wrth gwrs dydi hyn ddim yn cynnwys y bendithion cymdeithasol a diwylliannol, ac yn sicr ddim yn cynnwys y ffactor hollbwysig o hyder sy'n deillio o lwyddiant.
Gorfodi gwleidyddion i wrando
Gwelai Cymunedoli - sef gwneud y gorau o'n hadnoddau materol a dynol er budd ein cymunedau - fel dull pwerus o wella ein hardaloedd yn gymdeithasol, yn faterol, ac yn amgylcheddol.
Fe'n gadawodd heb i'r gwaith gael ei gwblhau, ond mae'r hadau wedi eu plannu, ac eisoes yn ymestyn y tu hwnt i Wynedd, diolch i waith arloesol yn y Cymoedd gan Leanne Wood a Beth Winter, ac wrth gwrs yn y nifer o enghreifftiau eraill o fentrau cymunedol llwyddiannus mewn sawl ardal arall.
Breuddwyd Sel oedd gweld y mudiad hwn yn tyfu i fod mor bwerus fel ei fod yn gorfodi gwleidyddion i wrando a chefnogi.
Meddai Leanne amdano:
"Dwi'n ddiolchgar fy mod wedi dysgu ganddo, wedi cael fy ysbrydoli ganddo, am ei egwyddorion, ei werthoedd ac am ei fod yn mynnu cynnal gobaith".
'Meddyliwr â phridd ar ei draed'
Yn sosialydd i'r carn, gwelai'n glir pa mor ddinistriol fu ac y mae cyfalafiaeth ddidostur. Echdynnu cyfoeth, dibrisio pobl, llygru amgylchedd. Tra bod y mantra poblogaidd yn hawlio fod ardaloedd tlawd a gwledig yn ddibynnol ar y metropolis, hawliai Sel mai'r metropolis, mewn gwirionedd, sy'n ddibynnol ar yr ardaloedd hynny am weithwyr ac am adnoddau.

Cyn darlithio ym maes datblygu cymunedau, roedd Selwyn Williams yn gweithio yn y fridfa blanhigion yn Aberystwyth pan yn ddyn ifanc a pharhaodd y diddordeb mewn byd natur drwy ei oes
Treuliodd oes yn brwydro dros ei gyd-eneidiau, dros y gweithwyr, dros heddwch, dros gyfartaledd, dros gydweithio rhyngwladol a thros y Gymraeg; brwydrodd yn erbyn casineb, rhyfel, cyfalafiaeth, ffasgaeth a gormes. Ond bob tro mor dyner yn ei ymwneud â'i gyd-fforddolion.
Yn frodor o Ddyffryn Conwy, bu'n was ffarm, labrwr, yn ymchwilydd, athro a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Rhychwantodd ei ddysg feysydd amaeth, bioleg, athroniaeth, economeg a datblygu cymunedol. Meddyliwr â phridd ar ei draed.
Cymru-Ciwba
Cyfrannodd yn helaeth at ddatblygiad syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith ddegawdau yn ôl, pan fu'n greiddiol yn hybu'r term 'Cymdeithasiaeth', "sef polisïau a fyddai'n rhoi'r grym i gymunedau i reoli eu tynged eu hunain, gan na chredwn y gall mympwy buddiannau'r farchnad a chyfalaf preifat fyth amddiffyn cymdeithasau Cymraeg." (Maniffesto 1982 y Gymdeithas).
Erys praffter dadansoddiad Sel yn berthnasol heddiw, fel ag yr oedd ddegawdau yn ôl.
Ymledai gorwelion Sel y tu hwnt i Gymru. Bu'n allweddol ym mudiad Cymru-Ciwba gan ymweld â'r wlad. Arweiniodd deithiau i Wlad y Basg a Catalwnia i ddysgu am eu sosialaeth ymarferol.
Teithiau cerdded ledled Cymru
Ar lefel bersonol, mi gefais i'r fraint o fod yn un o'r criw fydd yn cerdded ar y Sul ar hyd ac ar led Gogledd Cymru, ac ambell dro y tu hwnt. Digon posib na ddaru neb grwydro mwy o lwybrau yng Nghymru, nag y gwnaeth Sel.
Byddai'r teithiau cerdded yn dilyn llwybrau sydd wedi darparu fel llwybrau hir pwrpasol, fel Llwybr Arfordir Môn, Llwybr Arfordir Llŷn, y Llwybr Llechi a Llwybr y Pererinion.
Ar ben hynny, byddai ambell i daith yn cael ei llunio yn bwrpasol fel cylchdaith, a byddai Sel yn llawn gwybodaeth yn dehongli'r tirlun, ei fywyd gwyllt a'i hanes i ni. Wyddwn i ddim fod yna gymaint o fwyngloddio wedi digwydd yn Eryri. Wyddwn i ddim am brydferthwch enwau Cymraeg ar blanhigion. Wyddwn i ddim am y straeon y tu ôl i hen dai a murddunnod.

Saib yn ystod un o'i deithiau cerdded
Roedd Sel yn ffynnon ddihysbydd o wybodaeth fel hyn. Ac mi fyddai wrth ei fodd efo gosodiadau dramatig, fel y tro hwnnw pan oeddan ni yn mynd heibio Yr Ysgwrn. "Rhoswch funud, mae gen i deitl am ddarlith," medda fo.
"Ddaru Lloyd George ladd Hedd Wyn?" Pwy ond y fo! Ac ar un achlysur cofiadwy roedd Sel a'r criw wrth eu boddau yn bwyta eirin wedi eu cymryd o ardd tŷ haf! Roedd direidi y plentyn yn nodwedd arbennig ohono.
Maen nhw'n deud na ddylech chi gyfarfod eich arwr rhag i chi gael eich siomi. Dydi hynny ddim yn wir am Sel. Ac ella mai'r rheswm pam ydi nad oeddech chi'n sylwi ar unwaith ei fod o'n gymaint o arwr, er wrth gwrs fasa fo byth yn gweld ei hun yn arwr.
Arwr oedd yn tyfu arnoch chi oedd Sel, wedi i chi ddod i ddeall ehangder ei weledigaeth a'i ffyddlondeb i egwyddorion gorau'r ddynolryw. Mi fentra i broffwydo y bydd o'n arwr i bobl na chawson nhw'r fraint o'i 'nabod pan welwn ni ffrwyth ei lafur yn y blynyddoedd i ddod.
Nid oedd cyfaill gwell i'w gael.
A'i wers bwysicaf un - cariad yw sosialaeth. Cwsg mewn hedd, Sel.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024