Rhys Richards: Actio'n Bariau yn help i gryfhau ar ôl strôc

Rhys Richards yn chwarae rhan Merf yn BariauFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Richards yn chwarae rhan Merf yn Bariau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Rhys Richards yn dweud bod actio'n y gyfres Bariau wedi ei helpu i wella a chryfhau ar ôl cael strôc.

Mae Rhys, sydd wedi actio mewn cyfresi poblogaidd fel Iechyd Da, Pengelli a Tipyn o Stad, yn chwarae rhan Merf yn ail gyfres y ddrama garchar boblogaidd ar S4C ar hyn o bryd. Dyma'i ran cyntaf mewn cynhyrchiad mawr ers ei strôc.

"Oedd o'n braf cael gweithio eto, cael symud, cael bod ymhlith pobl eto – mynd o'r tŷ a gweithio a chyfarfod pobl. Ar ôl gwneud Bariau – o'n i'n sylweddoli 'mod i'n gallu 'neud mwy," eglurai Rhys.

Yn ôl yn 2023 bu Rhys yn sgwrsio gyda Cymru Fyw am effaith cael strôc arno a arweiniodd at golli symudiad yn ochr dde ei gorff a'i leferydd.

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, Rhys fu'n sgwrsio gyda Cymru Fyw am ei adferiad a'i yrfa actio.

Dysgu cerdded am y trydydd tro

Yn frodor o'r Bala, disgrifiai Rhys ei hun fel "tîn y nŷth" ac yntau'r ieuengaf o dri.

Ac mae effaith y strôc a gafodd tra'n gyrru ym mis Mai 2023 wedi dod a'i atgof cyntaf o ddysgu cerdded yn ôl iddo.

"Ro'n i'n dioddef o Perthes pan o'n i'n blentyn sef gormod o play yn y ddwy glun, wedyn ddaru nhw roi fi mewn splint.

"Fedrwn i ddim cychwyn cerdded nes i mi gael fy nyflwydd felly ro'n i'n hwyr yn dysgu cerdded. O'n i'n ffeindio hi'n anodd cerdded fyny elltydd pan o'n i'n hogyn bach a hynny am 'mod i wedi dysgu cerdded yn hwyrach mae'n siŵr."

Rhys ar ôl y ddamwain lle dorrodd ei goes a gorfod dysgu cerdded am yr eildroFfynhonnell y llun, Rhys Richards
Disgrifiad o’r llun,

Rhys ar ôl y ddamwain lle dorrodd ei goes a gorfod dysgu cerdded am yr eildro

Yna chwe mlynedd ar hugain yn ôl bu'n rhaid i Rhys ddysgu cerdded am yr eildro ar ôl damwain:

"Torres i nghoes ar ôl disgyn drwy do asbestos. Fuodd raid i fi ail ddysgu cerdded pan dorres i nghoes chwarter canrif yn ôl, a dwi wedi gorfod ail ddysgu cerdded eto ar ôl cael y strôc, felly tair gwaith i gyd.

"Ond roedd y tro dwytha yma'n wahanol - doedd yr ymennydd ddim yn deud wrthat ti be' i wneud.

"Pan ges i'r strôc – mi o'n i 'di dychryn ac mi o'n i am y cwpwl ddiwrnodau cynta' yn Ysbyty Gwynedd yn meddwl 'ma' hi 'wan, be uffar dwi'n mynd i 'neud'. O'n i 'di colli'n ochr dde i gyd ac o'n i'n poeni am hynny," meddai.

Gan ddiolch i staff yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Eryri mae Rhys yn dweud ei fod "yn byw bywyd eithaf normal" erbyn hyn "ac yn parhau i gryfhau."

Bariau wedi ei helpu i wella

Pan ddaeth y cyfle i chwarae rhan y carcharor, Merf, yn Bariau ac yntau'n dal i wella, ni ddychmygodd y byddai actio'n helpu ei adferiad:

"Nes i lot o olygfeydd o Merf yn pasio pethe drwy hatch, a do'n i'm yn sylweddoli ond o'n i wedi agor yr hatch efo'n llaw dde ac ers y strôc dwi wedi bod yn 'neud bob dim efo'n llaw chwith. Pan ddangosodd rhywun o'r tîm cynhyrchu y têc i mi, fedrwn i'm credu'r peth.

"Cyn 'Dolig ddoth ffrind i mi i osod radiators – oedd yna ddau ar lawr y stafell fyw a dyma fi'n meddwl wna i gario nhw drwodd a mi godes i'r ddau efo'n nwy law.

"Cyn Bariau faswn i heb feddwl am wneud hynny ond am bo' fi wedi bod yn gweithio a bod ynghanol pobl, a chael hwyl a banter efo'r criw, mae o wedi helpu'n sicr."

Merf yn gwneud ei ddyletswyddau'n y carcharFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Merf yn gwneud ei ddyletswyddau'n y carchar

Gyrfa actio

Dros y degawdau mae Rhys wedi chwarae amrywiaeth o gymeriadau – o'i ran fel Emyr yn y ffilm Cylch Gwaed i 'Hari paid a chwarae fo hwnna' yn C'mon Midffild, Geraint yn Pengelli a Thomas yn Pum Cynnig i Gymro.

Ac er "cyfnodau prysur a digonedd o waith i bawb yn y diwydiant" ar y pryd, fe sychodd y gwaith actio felly fe drodd Rhys ei law at bethau eraill gan gynnwys gyrru lorri a labro.

Gobaith Rhys yw y bydd Stiwdios Ffilm Aria yn Llangefni a agorwyd yn 2023 a lle ffilmwyd Bariau'n parhau i fod yn ofod i nifer o ddramâu uchelgeisiol gan ddod â gwaith i ogledd Cymru.

Rhys yn chwarae rhan Dic yn SombrerosFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn chwarae rhan Dic yn Sombreros

Ond sut y dechreuodd Rhys actio ac o le daeth ei ddiddordeb?

"Oedd fy nhad yn ddyn oedd yn actio lot yn y capel," eglurai Rhys.

"O'n i wrth fy modd efo pethau fel Steptoe and Son a Dad's Army.

"Roedd fy nhad isio i mi wylio John Le Mesurier yn chwarae Sergeant a'r ffordd mae o'n chwarae yn erbyn Captain Mainwaring ac yn tan-chwarae bob dim.

"Fydda'n nhad yn deud 'fel'na ti'n actio'. Dwi wastad wedi cymryd yr agwedd yna – mae'n rhaid i ti edrych i mewn i seicoleg y cymeriad wyt ti'n chwarae. Os wyt ti wedi dalld ei seicoleg o, fyddi di ddim yn bell o dy le."

Chwarae rhan tad y sipsi Eldra Jarman yn y ffilm EldraFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae rhan tad y sipsi Eldra Jarman yn y ffilm Eldra

Dylanwad actorion fel Stewart Jones

Er i gyfresi teledu ddylanwadu Rhys wrth dyfu i fyny, yn ara' deg y daeth ei fryd ar fod yn actor proffesiynol:

"Ro'n i'n 'neud dramâu ar ôl ysgol efo Buddug James, athrawes P.E yn Ysgol y Berwyn.

"O'n i'm yn gwybod be' o'n i isio 'neud. Ddaru pobl hwrjo fi i drio am le yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, ges i fy nerbyn ond wnes i fethu'n Lefel A."

Aeth Rhys i weithio mewn swyddfa yn Nolgellau ac ar ei ddiwrnod cyntaf yno fe dderbyniodd ei gyn-athrawes, Buddug James, alwad gan gyfarwyddwr o'r BBC oedd yn chwilio am actor ifanc ar gyfer rhan yn y ddrama deledu, Y Wers Olaf:

"Rhan hogyn ysgol yn mynd i gwffio efo'r athro sef John Ogwen oedd hi, a felly ges i 'nhroed i mewn," eglurai Rhys.

Stewart Jones yn Talcen CaledFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Stewart Jones yn Talcen Caled

Mae actio gyda phobl fel John Ogwen, Stewart Jones a Dyfan Roberts "wedi bod yn addysg iddo dros y blynyddoedd.

"Dwi wedi mwynhau lot fawr o bethe dwi 'di 'neud ond mae yna resymau gwahanol. Dwi'n cofio neud rhan fach ar Jeifomeim sef pantomeim Jeifin Jenkins ac oedd Brinley Jenkins a Stewart Jones ynddo fo. Stewart fel y dewin Myrddin a Brynley yn frenin – roeddan nhw'n ofnadwy o ddoniol efo'i gilydd.

"Ac unwaith eto – gwylio mawrion fel Brynley a Stewart yn gweithio efo'i gilydd, ac actio gyda John Ogwen a Dyfan Roberts ar wahanol gyfnode - pob un ohonyn nhw efo'u cryfderau eu hunain."

PengelliFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae cymeriad Geraint yn Pengelli gyda Valmai Jones

O focsio i Cylch Gwaed

Nid dawn actio'n unig sydd wedi bod yn gyfrifol am rannau actio Rhys. Ei allu fel bocsiwr ddaeth â rhan Emyr iddo yn y ffilm Cylch Gwaed, y rhan a gipiodd wobr BAFTA Cymru iddo.

"Cychwynnes i ymarfer bocsio efo hen focsiwr yn Nolgellau. Don oedd ei enw fo ac mi oedd o'n cadw sport shop yno. O'n i wedi cael clust fod o'n coachio a dysgu pobl felly o'n i'n ymarfer efo fo cyn i mi fynd at glwb bocsio Dolgellau. Roedd yna ddau bencampwr heavyweight Cymreig yno ar y pryd a fues i'n ymarfer a chael amebll i ffeit efo nhw.

Cylch GwaedFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhys yn chwarae Emyr yn Cylch Gwaed

"Mi ddeudodd Alun Ffred, cyfarwyddwr C'mon Midffild wrtha i tra'n ffilmio honno un dydd 'mod i wedi colli pwysa' a dyma fi'n egluro 'mod i wedi bod yn bocsio.

"Fe sylwodd o nad oedd yna ddrama Gymraeg wedi cael ei neud am focsio. Doedd genai'm isio neud rhyw ddrama fatha Rocky, oedd yr hogia' o'n i'n bocsio efo nhw yn Nolgelle'n gweithio'n chwarel yn dydd a bocsio'n nos. O fan'no ddoth Cylch Gwaed."

bocsioFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bocsio yn Cylch Gwaed

'Y gogledd angen mwy o ddramâu'

Yn ôl Rhys, mae ei flynyddoedd cynnar fel actor ar S4C wedi llywio ei agwedd at y gwaith hyd heddiw.

Meddai: "Roedd yr 80au cynnar yna'n learning curve i bawb oedd yn y byd actio. Oedd pawb yn neud ei ran, falle ein bod ni yn ffilmio yng ngwaelod rhyw gae – oeddet ti'n helpu pobl colur, gwisgoedd, props, pawb yn helpu ei gilydd i gario pethe lawr, ffilmio, a chario pethe yn ôl wedyn.

"Oedden ni i gyd yn dysgu a dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael y blynyddoedd gore o ran darlledu. Mi fysa'n dda gweld mwy o ddramâu gwreiddiol fel Bariau'n cael eu cynhyrchu yn y gogledd unwaith eto."

Pynciau cysylltiedig