Dewch i grwydro... Dinas Mawddwy a'r cyffiniau

Arfon HughesFfynhonnell y llun, Arfon Hughes
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dywysion swyddogol o amgylch Cymru i roi cyngor am lefydd difyr i fynd dros gyfnod gwyliau'r Pasg.

Tro Arfon Hughes o ardal Dinas Mawddwy yw hi heddiw ble mae wedi bod yn byw ers 30 mlynedd

Mae'n cynnig teithiau tywys mewn ardal brydferth iawn sydd â hanes hynod gan gynnwys Pennant Melangell, Sycharth ac Ystrad Fflur.

Wrth sôn am yr ardal, mae'n dweud nad oes "dim golygfeydd harddach i'w cael nag ardal Dinas Mawddwy".

Dyma ddewis Arfon o lefydd difyr i ymweld â nhw yn ei ardal.

Eglwys Pennant Melangell a'i chwedl

Eglwys Pennant MelangellFfynhonnell y llun, Wikipedia

Pennant Melangell yw'r enw a roddwyd ar y cwm a'r eglwys sydd wedi ei henwi ar ôl Santes o'r 7fed ganrif, Sant Melangell. Yn ôl yr hanes, fe wnaeth Melangell ffoi i Gymru o Iwerddon i osgoi trefniant priodas gan ei thad.

Daeth Brochwel, Tywysog Powys heibio, ac wedi ei synnu gan ei dewrder pan wnaeth hi roi lloches i ysgyfarnog y bu'n ei erlid efo'i gwn wrth hela, fe roddodd Brochwel y cwm iddi fel noddfa, a daeth Melangell yn Abades i gymuned grefyddol.

Ar ôl ei marwolaeth, parhaodd i gael ei hanrhydeddu ac mae Pennant Melangell yn gyrchfan i bererinion ers canrifoedd. Melangell yw nawddsant ysgyfarnogod.

Mae Eglwys y Santes Melangell yn adeilad Gradd 1 hyfryd ac anghysbell ym Mynyddoedd y Berwyn. Lleolir yr eglwys mewn mynwent gron, a fu gynt yn safle Oes yr Efydd, gyda choed yw hynafol tua 2000 o flynyddoedd oed.

Mynwent yr Eglwys:

Claddwyd y delynores Nansi Richards ('Telynores Maldwyn') 1888-1979 yma. Roedd hi'n adnabyddus am ei dawn a'i chymeriad.

Côd post Eglwys Pennant Melangell er mwyn cyrraedd yno yw SY10 0HQ.

Cwm Dugoed a hanes y Gwylliaid Cochion

Cwm DugoedFfynhonnell y llun, Arfon Hughes

Roedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn adnabyddus drwy Gymru oherwydd un digwyddiad pwysig ac yng Nghwm Dugoed ger Mallwyd Dinas Mawddwy ardal anghysbell a diarffordd bron 500 mlynedd yn ôl.

Ar y 12fed o Hydref 1555, llofruddiwyd y Barwn Lewis Owen Siryf Meirionnydd o'r Plas yn Dre, Dolgellau gan y Gwylliaid.

Yn ôl y stori ar lafar gwlad, roedd y Gwylliaid yn ardal Mawddwy ers gwrthryfel Owain Glyndŵr tua 1421, ac fe fu llawer o ddial a chollodd llawer o ffermwyr a thyddynwyr eu tiroedd a'u cartrefi, a doedd dim dewis ond byw ar herw yng nghoedwigoedd y du goed ym Mawddwy.

Y rheswm am lofruddio'r Barwn yw iddo ddod i Gwm Dugoed ar Noswyl Nadolig 1554 a dal 80 o'r Gwylliaid gan eu bod yn dwyn a llofruddio. Yn ôl traddodiad cafodd nifer o'r Gwylliaid eu crogi gan y Barwn ar fryn o'r enw Collfryn yng Nghwm Dugoed ac mae'r safle i'w weld hyd heddiw.

Mae hon yn ardal â golygfeydd hyfryd sydd heb newid llawer mewn 500 mlynedd.

Gellir gweld safleoedd Llidiart y Barwn, Collfryn a Ffridd Groes ynghyd a Rhos Goch ble honnir i'r Gwylliaid gael eu claddu.

Gellir cael map o deithiau Llwybrau Mawddwy o siopau'r ardal.

Eglwys Llangelynnin ger Llwyngwril a Rhoslefain

Eglwys LlangelynninFfynhonnell y llun, Arfon Hughes

Cysegrwyd eglwys y plwyf Llwyngwril a Rhoslefain rhwng Tywyn a'r Bermo i Sant Celynnin.

Mae'r eglwys ar glogwyn uwchben Bae Ceredigion ar yr A493 yn dyddio o'r 13eg ganrif a chafodd ei hadnewyddu'n helaeth ar ddiwedd y 15fed ganrif a'i atgyweirio yn y 19eg a'r 20fed ganrif ond mae'n cadw'r rhan fwyaf o'i gymeriad canoloesol.

Mae cyntedd a chlochdy o'r 17eg ganrif yn y pen deheuol, ac mae'r dyddiad 1660 wedi'i harysgrifio ar y gloch.

Mae tu fewn yr eglwys yn cynnwys paentiadau wal o'r 17eg ganrif gyda thestunau a ffigwr sgerbwd sydd yn reit frawychus. Mae meinciau aelodau'r eglwys yn cofnodi enwau, cyfeiriadau a galwedigaethau eu preswylwyr yn dyddio o tua 1823.

Y tu allan i'r porth claddwyd Abram Wood, sipsi Cymreig enwog yn 1799. Canai Abram y ffidil, ond nid oedd yn delynor cyn iddo ddod i Gymru ac yma y dysgodd ei dylwyth ganu'r delyn.

Dywedir ei fod yn 100 oed pan fu farw; y mae adeg ei farw'n berffaith hysbys - bu farw ar y ffordd gerllaw Llwyngwril, a chladdwyd yn Llangelynnin, 12 Tachwedd 1799; 'Abram Woods, a travelling Egyptian', chwedl rhestr y plwyf.

Mae'r awyrgylch hynafol yn taro rhywun wrth fynd i mewn a'r elor bren dau geffyl yn parhau â'r thema o fywyd a marwolaeth. Eglwys arbennig iawn. Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr er mai anfynych y cynhelir gwasanaethau bellach.

Llwybr Foel Dre, Dinas Mawddwy

Pistyll Graig WenFfynhonnell y llun, Arfon Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Pistyll Graig Wen i'w gweld yn y cefndir

Os oes yna lwybr sydd yn mynd â chi i weld golygfeydd ysblennydd yna llwybr Foel Dre yw honno, ond nid un i'r gwan galon; mae angen bod yn weddol heini i ddringo fyny ac i lawr y bryniau o gwmpas yr ardal.

Cofiwch lawr lwytho ap Darllenydd Cod Cyflym (QR Code Reader) cyn cychwyn er mwyn cael hanes yn y tirlun o'r codau cyflym sydd ar byst pren ar hyd y daith.

Dechreua'r llwybr fel nifer o'r wyth llwybr ym mhentref Dinas Mawddwy ac wrth i chi ddringo drwy goed pin ar gyrion y pentref fe ddewch allan i olygfa drawiadol o Gwm Maes Glase, Cwm Cerist a phistyll Graig Wen.

Mae hanes diddorol ble bynnag yr edrychwch - pistyll Graig Wen ble cloddiwyd am blwm a lle cynhelir ras feics Redbull enwog rŵan.

Pistyll Maes Glase yw'r olygfa sy'n tynnu sylw ym mhen y cwm, gan ddisgyn i lawr sawl gris. Mae'r disgyniad tua 160 metr i gyd, sy'n golygu ei fod yr un mor dal â'r holl raeadrau eraill yng Nghymru. Mae ei gwymp sengl fwyaf yn 85 metr, a'r ail yn 34 metr. Mae hwn yn rhaeadr drawiadol iawn, dros ddwywaith yn uwch na Phistyll Rhaeadr Llanrhaeadr ym Mochnant sydd yn fwy adnabyddus.

Mae ffermdy Tyn y Braich sydd â hanes teuluol yn ymestyn dros 1,000 o flynyddoedd ac yma seiliwyd nofel Angharad Pryce, O Tyn y Gorchudd.

Datblygodd Chwarel Minllyn rhwng 1793 - 1800 gan berchennog lleol ac yna datblygodd ymhellach gan Edmund Buckley - diwydiannwr ac Aelod Seneddol o Fanceinion.

Chwarel lechi oedd hyn ac yn enwog am slabiau llechi i wneud byrddau billiards, lle tân a lloriau yn ogystal â thai bach. O'r felin roedd llethr serth i lawr i'r dyffryn islaw gyda llethr byr pellach i Reilffordd Mawddwy.

Mae Gwesty'r Buckley Arms ar yr A470 wedi ei greu o goncrit in-situ, ac fe'i hadeiladwyd yn 1873 ar gyfer Syr Edmund Buckley. Dywedir mai dyma'r adeilad concrit cyfnerth hynaf yn Ewrop a'r ail hynaf yn y byd.

Yr ochr arall i'r dyffryn mae adfail Cynywrach. Does neb wedi byw yn Cynywrach ers dros gan mlynedd.

Ganed Morgan Lewis yma yn 1821 ac yma bu'n byw gyda'i wraig Catherine.

Credwch neu beidio ganed 22 o blant i Morgan - gyda'r mwyafrif yn goroesi plentyndod.

Yn anffodus i Morgan, cafodd ddamwain ofnadwy wrth ddod adre o Bala dros Fwlch y Groes - llithrodd ei geffyl i lawr yr ochr serth gyda Morgan ar ei gefn. Torrodd Morgan ei goes a bu farw ychydig wythnosau yn ddiweddarach yn 56 mlwydd oed.

Pynciau cysylltiedig