Mam wedi'i 'syfrdanu' gydag asesiad bod ei merch, 5, 'dros bwysau'

Cafodd Natasha wybod bod ei merch yn uwch na'r categori "pwysau iach" wrth ddefnyddio'r system BMI
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi'i dweud y cafodd ei syfrdanu ar ôl i'w merch bump oed ddod adref o'r ysgol gyda llythyr yn ei disgrifio o fod "dros ei phwysau".
Cafodd Natasha, o Flaenafon yn Nhorfaen, wybod fod Willow yn dair troedfedd wyth modfedd o daldra, ac yn pwyso tair stôn a saith pwys.
Roedd hyn yn golygu fod ei merch yn uwch na'r categori "pwysau iach" wrth ddefnyddio'r system BMI.
Mae gan Gymru "broblem sylweddol" o ordewdra ymhlith plant, yn ôl un arbenigwr - gyda mwy na 25% o blant pedair i bump oed dros eu pwysau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesur taldra a phwysau plant oedran derbyn yn bwysig, er mwyn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.

Mae Willow yn cymryd rhan mewn gymnasteg, dawnsio a nofio bob wythnos ac mae'r hyn mae'n ei fwyta yn gytbwys, meddai Natasha
Beth bynnag y bwriad, rhoddodd y categoreiddio sioc i Natasha.
Mae ei merch yn cymryd rhan mewn gymnasteg, dawnsio a nofio bob wythnos ac mae'r hyn mae'n ei fwyta yn gytbwys, medd ei mam.
Dywedodd Natasha ei bod yn "deall pam ei fod yn digwydd - i gasglu ystadegau ar gyfer y boblogaeth gyffredinol - ond nad yw'n fanwl gywir o gwbl".
"Mae'n ddull mor ddigalon, labelu plant yn y fath fodd, ac yn seiliedig ar BMI yn unig."
Ychwanegodd ei fod yn ddull hen ffasiwn, ei fod yn rhannu gwybodaeth anghywir, a bod nifer o elfennau i'w hystyried wrth fesur iechyd plentyn.
'Ro'n i mor flin'
Mae Natasha, 29, eisiau gweld y system yn cael ei hailwampio.
Mae hi hefyd wedi dechrau deiseb yn galw am roi ystyriaeth i'r darlun ehangach o ran iechyd a ffordd o fyw.
Cafodd hi wybod gan yr ysgol fis ynghynt fod y gwiriad iechyd yn digwydd, ond roedd hi wedi disgwyl i hyn gynnwys pob agwedd.
"Ro'n i mor flin," meddai Natasha.
"Dwi wedi tyfu i fyny yn cael gwybod fy mod dros fy mhwysau a bod angen i mi golli pwysau, ac rydw i wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud yn siŵr nad ydy Willow yn cael hynny."

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards fod gordewdra yn "broblem sylweddol" ymhlith plant
Mae'r cynllun mesur plant yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd yr Athro Adrian Edwards o Brifysgol Caerdydd, sy'n gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod gan Gymru "broblem sylweddol" o ran gordewdra ymhlith plant.
Ychwanegodd fod mwy na 25% o blant pedair i bump oed Cymru dros eu pwysau, o gymharu â thua 11% ar draws y DU a 7% ar gyfartaledd mewn gwledydd incwm uchel eraill.
Cyfaddefodd fod rhywfaint o ymchwil wyddonol yn dangos nad ydy BMI bob amser yn gywir, gan ddweud bod pobl fel chwaraewyr rygbi yn gallu cael eu categoreiddio fel gordew oherwydd eu cyhyrau.
'Pwysig i wella iechyd plant'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesur taldra a phwysau plant oedran derbyn yn "rhan o'n rhaglen datblygiad plant Plentyn Iach Cymru, sy'n bwysig i wella iechyd plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae bod yn gyson yn y modd y mae nyrsys ysgol yn mesur plant yn caniatáu i Iechyd Cyhoeddus Cymru asesu tueddiadau dros amser ar lefel poblogaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017