Eisiau stopio salwch ceffylau? Mae'r prawf yn y pŵ...

Ceffyl a HelenFfynhonnell y llun, Helen Evans
  • Cyhoeddwyd

Dydi delio gyda charthion ceffylau ddim o reidrwydd yn rhywbeth fyddai pawb yn dewis ei wneud fel swydd. Ond dyna mae Helen Evans yn ei wneud yn rheolaidd yn ei busnes newydd.

Mae hi newydd ddechrau cwmni yn monitro lefelau wyau llyngyr mewn ceffylau; gwasanaeth a allai fod o fudd i'r ceffylau, perchnogion a'r gymuned geffylau yn ehangach, meddai.

Ffordd o fyw

Yn dod o deulu sydd wastad wedi cadw ceffylau, mae Helen, o Lysfaen yn sir Conwy, wedi caru'r creaduriaid erioed:

"Dwi 'di bod yn marchogaeth ac wedi bod o amgylch ceffylau ers i mi fod yn fychan. Dwy oed o'n i pan nes i ddechrau reidio ceffylau. A dwi 'di dal ati efo nhw; mae ganddon ni bedwar ar y funud.

"Da ni'n mynd i bencampwriaethau a chystadlaethau lleol. Dwi'm yn reidio nhw gymaint â ddylsa fi, gan mod i 'di mynd yn hŷn, a mae gen i broblemau gyda fy nghlun, felly dwi 'di dechrau gneud side saddle ar un ohonyn nhw.

"Maen nhw'n dod â ryw fath o heddwch i mi. Pan dwi efo nhw, dwi wastad yn hapus; mae 'na jyst rywbeth amdanyn nhw."

Helen yn marchogaethFfynhonnell y llun, Helen Evans

A hithau'n gweithio llawn amser ym myd y gyfraith, diddordeb yw ceffylau i Helen... os nad yn ffordd o fyw, eglurai:

"Maen nhw'n fwy na hobi; gan eu bod nhw fel cael plentyn, dydyn nhw'm yn gallu gneud ar eu pen eu hunain. 'Da ni'n cadw nhw mewn caeau felly ni sy'n gorfod gneud yn siŵr bod ganddyn nhw'n bwyd a'r dŵr a g'neud yn siŵr eu bod nhw'n iach."

Diddordeb sydd wedi troi'n fusnes ar yr ochr...

Difa'r dibyniaeth ar gemegion

Cadw ei cheffylau hi a cheffylau eraill yn iach yw nod ei menter newydd, The Poo-ologist, sydd yn monitro nifer yr wyau llyngyr sydd gan geffyl.

A hithau'n trin ceffylau ers iddi fod yn ddim o beth, mae hi wastad wedi cadw at y cyngor swyddogol o roi tabledi llyngyr i'r ceffylau bedair gwaith y flwyddyn. Ond mae 'na gymhlethdodau yn dod yn sgil hynny, eglurai:

"Mae llyngyr yn gallu g'neud lot o niwed i gyrff a iechyd ceffylau, achos eu bod nhw'n bwyta i mewn i'w stumogau nhw. Ond dros y blynyddoedd, mae'r llyngyr wedi datblygu resistance i'r cemegau, a does ganddon ni ddim cemegau newydd yn dod ar y farchnad.

"'Da ni angen cadw beth sydd ganddon ni yn barod, fel eu bod nhw'n effeithiol yn erbyn y llyngyr."

HelenFfynhonnell y llun, Helen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen yn gallu cynnal arbrofion yn y fan a'r lle ar yr iard neu'n casglu samplau ac yn cynnal yr arbrofion mewn labordy yn ei chartref

O brofi tail y ceffyl a gwirio lefelau'r llyngyr, gall y perchennog wybod i sicrwydd os oes angen i'r ceffyl gael tabledi gwrth-lyngyr neu beidio. Clywodd Helen am ddynes oedd yn cynnal profion o'r fath yng ngogledd Lloegr, a chafodd y syniad i wneud yr un fath yn ei hardal ei hun.

Ar ôl cwblhau cwrs a phrynu'r offer angenrheidiol i brofi'r samplau, dechreuodd Helen ei busnes ddiwedd y llynedd, ac ers hynny mae hi'n teithio'r gogledd a'r canolbarth ar ei dyddiau i ffwrdd a'r penwythnosau yn casglu a phrofi samplau tail.

Buddion i'r ceffyl (a'r cyfrif banc)

O fewn 24 awr, mae Helen yn gallu cynghori'r perchnogion os oes angen rhoi tabledi gwrth-lyngyr i'r ceffyl. Mae 'na lawer o fuddion o wneud hyn, yn hytrach na dilyn yr hen drefn, meddai – i'r ceffyl ac i'r perchennog.

"Mae o'n ffordd i beidio gorfod rhoi'r tabledi yn ddi-angen, i beidio rhoi cemegau yn y ceffylau, sy'n gallu effeithio arnyn nhw, i sicrhau llai o ymwrthedd, ac mae o'n safio pres!"

Mae'r gwanwyn yn gyfnod a all fod yn beryglus iawn i geffylau sydd â lefel uchel o lyngyr yn eu cyrff. Wrth i'r tywydd gynhesu, gall y llyngyr sydd wedi bod yn tyrchu yn leinin stumogau'r ceffylau dros y gaeaf, gael eu rhyddhau yn un haid i mewn i'r corff, gan achosi problemau iechyd difrifol, neu hyd yn oed marwolaeth.

Felly mae gwybod yn union beth sy'n mynd ymlaen gyda iechyd y ceffyl drwy gydol y flwyddyn yn hollbwysig, meddai Helen.

Helen Ffynhonnell y llun, Helen Evans

'Mae 'na ddiolch bob tro'

A hithau wedi bod yn rhan o'r gymdeithas geffylau ei holl fywyd, mae hyn yn ffordd iddi barhau i gymdeithasu, gan ei bod yn marchogaeth llai y dyddiau yma, meddai. Ac mae'r gwerthfawrogiad ymhlith y gymuned yn glir:

"Mae'n neis fod pawb sy'n gofyn i mi 'neud o yn angerddol am eu ceffylau. A dyna'r peth efo pobl sy' bia ceffylau, a dyna pam bod nhw'n fodlon rhoi'r oriau a'r gwaith fewn, a maen nhw'n fodlon gwario'r arian.

"Pan dwi'n anfon y canlyniadau atyn nhw, hyd yn oed os ydy'r lefelau'n uchel a bod rhaid iddyn nhw fynd allan a chael y wormer, mae 'na ddiolch bob tro. Hyd yn oed os ydi'r newyddion ddim yn dda, mae pawb yn ddiolchgar, a ti'n teimlo'n dda, achos bo' ti'n helpu'r ceffyl a helpu'r perchennog."

Ac i'r rheiny sy'n dweud 'fydden i byth yn gallu gweithio gyda baw anifeiliaid'...?

"Dwi 'di arfer, a mae gen i fenig pan dwi'n gwneud y gwaith. Ond dim ond gwellt ydi o beth bynnag 'de..!"

Pynciau cysylltiedig