Canser y fron yn 'troi'r byd ar ei ben'

- Cyhoeddwyd
Daeth tro ar fyd Marged Berry o Ynys Môn ym mis Tachwedd llynedd.
Roedd hi ar fin cychwyn ei swydd ddelfrydol fel golygydd creadigol i wasg Rily pan cafodd diagnosis o ganser y fron.
Bu Marged yn trafod effaith y diagnosis a sut mae creadigrwydd wedi ei helpu drwy gyfnod anodd ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru, dolen allanol.
Meddai: "Mis Tachwedd diwethaf, ges i ddiagnosis o ganser y fron. Ges i'r newyddion wythnos ar ôl i fi ffeindio allan bod fi wedi bod yn llwyddiannus yn y swydd golygydd creadigol.
"Felly, mi wnaeth o droi'r byd ar ei ben. Dwi'n 38, mae gen i dri o blant ifanc a ti jest ddim yn meddwl bod hynny'n mynd i ddigwydd i ti. Mi wnaeth pethau ddigwydd yn gyflym iawn - ges i'r diagnosis, nifer o brofion a sgans a wedyn syth mewn i lawdriniaeth."

Marged a'i theulu
Erbyn hyn mae Marged wedi cael dwy lawdriniaeth ac wedi gorfod delio gyda sawl ergyd, fel mae'n sôn: "Ddaru nhw ffeindio bod o wedi lledaenu mwy nag oeddan nhw'n meddwl i ddechrau efo. Felly, roedd y llawdriniaeth cyntaf cyn Nadolig ac wedyn ffeindio allan o ganlyniad bod o wedi lledaenu wedyn.
"Felly, nôl fewn i gael triniaeth eto i dynnu'r lymph nodes i gyd a thynnu mwy o'r fron. Ac wedyn, ffeindio allan wedi hynny eto bod o wedi lledaenu mwy nag oeddan ni'n disgwyl eto.
"Ac roedd o'n od achos oedd ddim byd wedi'i ddangos ar y sgans o gwbl. Felly, roedd o fel bod o'n sioc ar ôl sioc ar ôl sioc mewn ffordd."
Erbyn hyn mae Marged hanner ffordd drwy'r chemotherapi ac yn dilyn hynny fydd mwy o lawdriniaeth a radiotherapi.
Fel nifer o fenywod sy'n profi triniaeth ar gyfer canser y fron, mae bywyd wedi newid yn fawr iddi, fel mae'n esbonio.
Nid yn unig oedd hi ar fin cychwyn ei swydd ddelfrydol ar ôl blynyddoedd o weithio fel cyfreithwraig ac yn y busnes teulu ond roedd hi hefyd wedi lansio'r podlediad Sgribls yn ddiweddar, sy'n trafod y broses ysgrifennu a llyfrau Cymraeg.

Ac roedd Marged, sy'n byw gyda'i theulu yng Nghaerwrangon erbyn hyn, ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf a phriodi pan gafodd hi'r newyddion wnaeth newid ei byd.
Meddai: "Mae'n golygu bod fi wedi gorfod gohirio cyhoeddi'r llyfr sydd wedi bod yn siom ofnadwy. Ond dwi wedi gorfod derbyn - fedrwch chi ddim gwneud bob dim, a dwi'n gorfod canolbwyntio ar y triniaeth ac ar y teulu. A gohirio'n priodas ni felly pob math o bethau hyfryd oedd i fod y flwyddyn yma."
Ond un peth sy' wedi ei helpu drwy'r driniaeth oedd y ffaith fod swydd newydd a chreadigol ganddi i edrych ymlaen ato: "Dwi mor falch o fedru cychwyn y swydd. Mae'n rhaid i mi ddweud mae Rily wedi bod yn hollol anhygoel o ran rhoi cefnogaeth i fi.
"Mae wedi helpu fi i ddechrau swydd newydd ar y cyd a chael triniaeth am y canser. Achos mae o wedi helpu fi gymaint yn feddyliol i gael rhywbeth arall i feddwl amdano fo, rhywbeth positif. Dwi'n teimlo'n gyffrous amdano fo.
"Mae byw efo canser yn cymryd drosodd bob agwedd o dy fywyd di, ac felly mae wedi bod mor fuddiol i fi gael cadw rhyw fath o normalrwydd mewn swydd.
"Mae ymgolli mewn prosiect creadigol wedi bod yn hanfodol hefyd; rhai o'r adegau mwyaf heriol yw'r dyddiau cyn cael canlyniadau sgan neu canlyniadau profion yn dilyn llawdrinaeth, ac yr unig beth oedd yn fy ngadw i rhag mynd i banig llwyr ac yn cymryd fy meddwl i rywle arall ar y dyddiau mwyaf tywyll oedd gweithio ar y nofel ac ymgolli fy hun mewn byd arall.
"Mae o'n bwysig a dwi'n gwybod bod pawb yn delio efo pethau mewn ffyrdd gwahanol ond i fi mae o wedi bod yn help ofnadwy i fedru meddwl am bethau gwahanol a rhywbeth da."
Wedi ymddiddori ym myd llenyddiaeth ers yn blentyn, mae Marged wedi ysgrifennu nofel yn ei hoff genre, sef ffuglen hanesyddol, ac yn gobeithio cyhoeddi cyn hir.
Mae'n esbonio: "Nofel ydy o am Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Roedd yn frenin yn y deheubarth ar ddiwedd y 10fed ganrif. 'Da ni'n dilyn bywyd Nest wrth iddi fynd i lys brenin Lloegr ac wedyn yn ôl i Gymru ac mae yna bob math o bethau yn digwydd iddi hi ar hyd y ffordd.
"Dwi wedi bod â diddordeb yn Nest am yn hir iawn. A dwi eisiau rhoi'r llais iddi ac efallai cwestiynu'r portread sydd eisoes yn bodoli ohoni."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024