Treth ar dwristiaid: 'Nonsens' neu'n 'ddigon teg'?

Llun o'r awyr o GaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r syniad o gyflwyno treth ar dwristiaid sy'n ymweld â Chymru yn "nonsens llwyr", yn ôl un perchennog maes carafanau.

Dywedodd Martin Williams o Ynys Môn fod yr argymhellion i gyflwyno treth dwristiaeth yn "codi pryder" i berchnogion busnesau sydd eisoes yn wynebu sawl her.

Ond mae eraill, gan gynnwys ysgrifennydd menter gymunedol Llety Arall yng Nghaernarfon, yn meddwl "bod o'n ddigon teg" gofyn i ymwelwyr dalu arian er budd y gymuned leol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai cyflwyno treth ar ymwelwyr godi hyd at £33m y flwyddyn i gefnogi a gwella twristiaeth mewn ardaloedd lleol.

Mae'r sector twristiaeth yn cyflogi bron i 160,000 o bobl yng Nghymru, a'r gred ydy bod y diwydiant werth rhwng £3bn a £4bn i'r economi.

Pe byddai treth ar ymwelwyr yn cael ei chyflwyno, byddai'n berthnasol i bobl sy'n aros dros nos, gan gynnwys pobl sy'n byw yng Nghymru sy'n mynd ar eu gwyliau o fewn y wlad.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw i bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru dalu £1.30 + TAW am bob noson maen nhw'n aros mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo, ac yna 80c + TAW ar gyfer aros mewn hosteli a meysydd gwersylla.

Byddai plant yn cael eu heithrio o dalu'r ardoll mewn llety rhatach fel gwersylla.

Os caiff hynny ei gymeradwyo gan y Senedd yn 2027, penderfyniad cynghorau lleol fydd hi wedyn os ydyn nhw am gyflwyno'r dreth yn eu hawdurdod nhw.

Martin Williams
Disgrifiad o’r llun,

"I deulu o bump neu chwech i aros am wythnos neu bythefnos, mae'n swm sylweddol," meddai Martin Williams

Mae rhai yn meddwl fod y syniad o gyflwyno treth o'r fath yn destun pryder.

Mae Martin Williams yn berchennog ar faes carafanau Bryn Goleu ym Modedern ar Ynys Môn, ac yn dweud bod treth o'r fath yn "nonsens llwyr".

"Maen nhw wedi dechrau siarad amdano fo ers 2022 ond yn 2025, does dim byd pendant wedi digwydd," meddai.

"Mae hyn yn creu pryder i fusnesau twristiaeth - ers dod nôl ers Covid, mae hwn yn hongian dros ben rhywun."

Ychwanegodd: "Mae o'n waeth achos maen nhw'n deud bod siroedd yn medru penderfynu os ydyn nhw am wneud hyn eu hunain ac mi allai hynna wedyn greu 2 tier, 3 tier level yng Nghymru a 'da ni ddim isio hynna. Mae Cymru yn wlad."

'Cwmwl dros eich pennau'

Dywedodd fod twristiaid sy'n ymweld â Chymru yn cyfrannu i'r economi leol.

"Mae pawb sy'n dod yma yn gwario, maen nhw'n talu tâl ar werth, maen nhw'n gwario gyda busnesau lleol a 'da ni'n defnyddio busnesau lleol i 'neud gwaith yma.

"Fel ma' petha' ar hyn o bryd efo costau 'di mynd fyny, mae pawb yn bryderus.

"Mae 'na gwmwl dros eich pennau - be sy'n mynd i ddigwydd de?"

Yn ystod gwyliau'r Pasg, mae maes carafanau Mr Williams yn brysur tu hwnt, ond dywedodd ei fod yn credu na fyddai mor brysur pe bai treth ar dwristiaid yn cael ei chyflwyno.

"I deulu o bump neu chwech i aros am wythnos neu bythefnos, mae'n swm sylweddol...

"Diwedd y gân ydy'r geiniog. Os fedrwch chi fynd i rhywle rhatach a sbario £100 yr wsnos neu be' bynnag, i fanna 'da chi am fynd. Gwyliau 'di gwyliau!"

Mae'n 'ddigon teg'

Ond mae eraill o blaid cyflwyno treth o'r fath.

Menna Machreth ydy ysgrifennydd Llety Arall, menter gymunedol sy'n darparu ystafelloedd aros i ymwelwyr yng nghanol Caernarfon.

Dywedodd: "'Da ni'n gweld lot o dwristiaeth yn yr ardal yma yng Ngwynedd a 'da ni'n meddwl bod o'n ddigon teg i ofyn i ymwelwyr ystyried cost hynna i'r gymuned leol."

Menna Machreth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menna Machreth yn credu fod treth dwristiaeth wedi gweithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop

Ychwanegodd: "Drwy ofyn am ardoll bach, bydde hynna'n helpu gyda'r effaith sy'n gallu bod yn negyddol ar y gymuned a byddai'r arian yna'n gallu cael ei ailfuddsoddi mewn i'n gwasanaethau ni a'n seilwaith ni yn y gymuned."

Dydi hi ddim yn credu y byddai'r ardoll yn golygu y byddai llai o bobl yn ymweld â Chymru.

Dywedodd: "Dwi ddim yn meddwl bod ardoll ymwelwyr wedi rhoi pobl ffwrdd o ymweld â gwledydd mwyaf poblogaidd Ewrop lle mae hyn yn arfer hollol normal, felly dwi ddim yn rhagweld bydd hynny'n digwydd yng Nghymru.

"Mae ymwelwyr yn mynd fwyfwy cydwybodol ac ymwybodol o effeithiau twristiaeth ac eisiau byw bywydau cynaliadwy."

Beth ydy barn ymwelwyr?

Wrth i dwristiaid ymweld ag ardal Llanberis dros wyliau'r Pasg, cymysg oedd y farn yno.

Dywedodd Marilyn White, oedd yn ymweld o ardal Manceinion, y "byddai'n gwneud niwed i'r sector twristiaid yn y llefydd hyn, oherwydd ei fod yn ddigon drwg nawr gyda chostau byw, heb ychwanegu mwy".

"Yn bersonol ni fyddai'n fy rhwystro i rhag ymweld [â Chymru], oherwydd dwi'n gallu ei fforddio, ond mae llawer o deuluoedd yn methu a dwi'n meddwl y byddai hynny'n eu hatal rhag dod yma," meddai.

Denise a Paul Addamson
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Denise a Paul Addamson o Lannau Mersi yn barod i dalu treth o'r fath

Rhai eraill oedd yn ymweld â Gwynedd yn ystod y gwyliau oedd Denise a Paul Addamson o St Helens yng Nglannau Mersi.

Dywedodd Ms Addamson: "Fydden ni ddim yn gwrthwynebu talu hynny pe byddai'r arian yn mynd tuag at isadeiledd yr ardal leol.. pan fyddwch chi'n mynd i wledydd eraill, ma' nhw'n codi treth.

"Pan aethon ni i Prague, oedd rhaid talu ffi ychwanegol wrth i chi gyrraedd y wlad."

'O fudd i'r gymuned leol'

Roedd Dr Rhys ap Gwilym, sy'n uwch ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn rhan o dîm wnaeth baratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru, gan edrych ar ardaloedd eraill yn y byd sydd wedi cyflwyno tâl o'r fath.

Dywedodd: "Yn rhai o'r enghreifftiau, dyma ni'n gweld bod y dreth yn cael ei defnyddio i helpu i ariannu tai cymdeithasol ac mewn llefydd eraill o'dd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella cludiant cyhoeddus.

"Felly mae llawer o ffyrdd fedrith gwariant o'r pres sy'n cael ei godi fod o fudd, nid jest i ymwelwyr eu hunain ond hefyd i'r gymuned leol."

Dr Rhys ap Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhys ap Gwilym o'r farn y gallai cyflwyno treth o'r fath weithio yng Nghymru

Ychwanegodd mai un o'u prif argymhellion i Lywodraeth Cymru oedd "bod y ffordd mae'r arian sy'n cael ei godi yn cael ei wario, bod hynny'n cael ei arwain gan grwpiau lleol sy'n deall y diwydiant yn lleol ac yn deall sgil-effeithiau'r diwydiant yn lleol hefyd".

Mae'r Dr Rhys ap Gwilym "yn credu fedrith hyn weithio yng Nghymru".

"O'r holl gyrchfannau 'naethon ni edrych arno fo, ma'r treth 'di cael ei groesawu yn y pendraw a mae 'di bod yn llwyddiant ymhob un o'r achosion 'naethon ni archwilio.

"Dwi'n credu bod 'na enghreifftiau arbennig allan yna, felly dwi'n credu jyst bod e'n cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r enghreifftiau da yna o dramor, dwi'n credu medrith hyn fod yn llwyddiant yng Nghymru, ond mae'n bwysig bod e'n cael ei gyflwyno yn y ffordd orau."

'Codi hyd at £33m'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Gallai cyflwyno ardoll ymwelwyr bach godi hyd at £33m y flwyddyn i gefnogi a gwella twristiaeth mewn ardaloedd lleol.

"Bydd cynghorau yn penderfynu os ydynt yn defnyddio ardoll ymwelwyr neu beidio.

"Rydym yn credu ei bod yn deg bod pawb yn cyfrannu tuag at y gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio."